Pwy sy’n Ymglymedig?
Anabledd Dysgu
Mae Gwasanaethau Oedolion yn cael eu rheoli ar wahân ar hyn o bryd gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod y ddau dîm wedi eu lleoli gyda’i gilydd ac mae ganddynt hanes o gydweithio, byddai’r prosiect hwn yn caniatáu i waith ddatblygu i’r lefel nesaf o weithio ar y cyd.
Ni fu’r ymdrechion diweddar i ddatblygu gweithio ar y cyd yn llwyddiannus. Ystyrir mai’r prif reswm am hyn oedd methiant i allu neilltuo’r amser sydd ei angen ar gyfer y prosiect.
Mae’r cynnig yn bwriadu ymdrin â phryderon drwy gyflogi Rheolwr Datblygu Prosiect i hwyluso integreiddiad agosach wrth gynllunio a throsgludo gwasanaethau yn cynnwys trawsnewid gwasanaethau Plant i Oedolion.
Anabledd Dysgu – Oedolion
Argymhellir fod y project yn:
- Ailsefydlu’n gadarn darpariaeth gwasanaeth ar y cyd fel blaenoriaeth o fewn Gwasanaethau Anabledd Dysgu
- Gwella cydberthnasau gweithiol rhwng timau iechyd a gofal cymdeithasol lleol.
- Lleihau dyblygu mewn cynllunio a darpariaeth gwasanaeth cyfredol gan alluogi adnoddau i gael eu defnyddio’n fwy effeithiol.
- Sicrhau fod camau positif yn cael eu cymryd tuag at integreiddio agosach e.e. rhannu cynllunio strategol.
- Gwella ymglymiad gweithredol defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wrth gynllunio, darparu a monitro gwasanaeth.
Plant gydag Anabledd
- I weithio ar uno’r Meini Prawf Cymhwyster y gwahanol wasanaethau y daw pobl ifanc i gysylltiad â nhw.
- I sefydlu is-grwp i drafod pa feini prawf a ddefnyddir, pa baramedrau y mae gwasanaethau’n gweithio â nhw a mapio’r rhain i ddarparu adroddiad ar ganlyniadau.
Amcanion Cyffredin (a ragwelir)
Nodi ac adolygu anghenion:
- Plant gydag anabledd a’u teuluoedd.
- Oedolion gydag anabledd dysgu
- Ymgynghoriad a chyfranogiad effeithiol
- Cyd-gynllunio a chyd-ddarparu o fewn ac ar draws y grwpiau oedran.
- Dysgu oddi wrth arfer da ac adeiladu arno.
|