|
Amcanion Gwasanaethau Oedolion
Hyfforddiant ar y Cyd
- I drafod Hyfforddiant ar y Cyd presennol gynhelir gan dri o Asiantaethau a nodi anghenion tebyg
- Adnabod anghenion hyfforddiant drwy wneud astudiaeth o anghenion hyfforddi.
- I sicrhau y gall staff iechyd a gofal cymdeithasol gael hyfforddiant gyda’i gilydd fel y gellir adeiladu timau
- Sicrhau y gellir cynnwys materion cyfreithiol fel Deddf Gallu Meddyliol.
Cydgomisiynu (Tasgau)
- I drafod a nodi pethau sy’n debyg rhwng y tri chynllun busnes a’r strategaethau comisiynu (Cynllun ar gyfer y tasgau).
- Datblygu system i gydgynllunio a chomisiynu (tasgau) ar draws Conwy a Sir Ddinbych.
- Nodi materion posibl gyda datblygiad Strategaeth Gomisiynu (tasg) a Chynllunio aml asiantaeth.
- I geisio cael trefniant cyd-gomisiynu (tasgau) ar gyfer Gwasanaethau Anabledd.
|
|