Amcanion y Prosiect, Effaith, yr Hyn a Ellir ei Drosgludo A/Neu Ganlyniadau a Ddymunir
Amcanion
Nod y prosiect yw darparu Gwasanaeth Offer Cymunedol ar draws Sir Ddinbych. Cyflawnir hyn trwy Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefo rheolaeth sengl o'r gwasanaethau, rhannu'r costau rhedeg, a chyflwyno system Technoleg Gwybodaeth newydd i'w defnyddio ar draws y bartneriaeth hefo dyddiad cyflwyno targed o Ragfyr 08 - Mawrth 09.
Effaith
Caiff CESI effaith ar y meysydd ymarfer canlynol:
-
Systemau effeithiol i bobl broffesiynol sy’n archnodi archebu cyfarpar;
-
Trosgludo, gosod ac arddangos cyfarpar yn effeithiol;
-
Ymarfer caffael da wedi ei ategu gan b?er pryniant gwell wrth i asiantaethau gydweithio;
-
Rheoli stoc yn effeithlon a thracio cyfarpar yn effeithlon;
-
Trefniadau effeithiol ar gyfer gwasanaethu, casglu a diheintio cyfarpar; a
-
Threfniadau effeithiol ar gyfer ailgylchu a chyfnewid neu werthu cyfarpar arbenigol drwy beirianwaith rhith storfa.
Yr hyn a ellir ei Drosgludo a/neu ganlyniadau a ddymunir
-
Cyfleusterau storio addas (adeilad). Gwell cyfleusterau storio gyda gwell iechyd a diogelwch a rheolaeth haint;
-
Lleihad yn amser staff a gollir wrth geisio lleoli cyfarpar oherwydd cyfleusterau storio neu logisteg wael;
-
Storfeydd Dibynnol: Darpariaeth, cynhaliaeth ac integreiddiad storfeydd dibynnol mewn ysbytai, clinigau neu yn y gymuned i hwyluso cyflwyno cyfarpar yn sydyn;
-
Diheintio: Sicrhau fod pob cyfarpar yn cael eu trin yn unol â mesurau diheintio/rheoli heintiad safonol;
-
Cyfleusterau arddangos (yn cynnwys gogyfer Nam ar y Synhwyrau) a stock o gyfarpar cyfalaf ar gyfer arddangosiadau;
|