Healthy Denbighshire
"" Cymraeg Contact Us Cymraeg
Cartref
Beth a olygir wrth Wasanaethau Cyfarpar Cymuned? Anghenion y Defnyddiwr Gwasanaeth Pryd y gallech chi fod angen Gwasanaeth Cyfarpar?

Manylion y Prosiect — Pam y mae arnom angen newid?

Mae ar wasanaethau offer cymunedol yng Nghymru angen eu moderneiddio, eu hintegreiddio a'u datblygu ar frys, i'w gwneud yn fwy effeithlon er mwyn ymateb i alw cynyddol. Mae pobl yn byw'n hirach, ac o'r herwydd mae cyffredinrwydd clefyd cronig neu gyflyrau hirdymor ac anabledd wedi cynyddu. Bellach, mae gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â'u partneriaid a gofalwyr teuluol, yn cynnal mwy a mwy o bobl ddibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r boblogaeth gynyddol o bobl hyn yn her sylweddol i'r holl asiantaethau, nid yn unig i ddarparu lefelau priodol o gefnogaeth ond hefyd i hybu annibyniaeth unigolion. Gall gwasanaethau offer cymunedol hybu a chynnal annibyniaeth yr unigolyn yn y cyfnod cynnar, ac mewn rhai achosion gall ohirio neu atal yr angen am wasanaethau eraill.

Fel mae'r Strategaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol’, yn nodi: “Caiff Gwasanaethau Cymdeithasol eu tynnu i mewn pan nad yw'r unigolyn neu’r teulu'n gallu ymdopi mwyach. Bydd y gwasanaethau a ddarperir wedyn yn gostus ac yn ddadalluogol, a bydd y deilliannau i unigolion yn waelach. Bydd y gwasanaethau’n cael eu hailgloriannu er mwyn caniatáu i wasanaethau gael eu darparu’n gynt a chael eu haddasu i anghenion unigolion, ac er mwyn atal neu ohirio'r angen i bobl symud i lefel uwch o angen.” (para. 3.10). Mae CESI yn enghraifft dda o wasanaeth o'r fath.

Mae'r galw ar adnoddau ar gyfer offer cymunedol yn cynyddu hefyd, oherwydd gofynion iechyd a diogelwch a'r pwys cynyddol sy'n cael ei roi ar ddiogelwch y gofalydd. Gall darparu offer cymunedol leihau'r perygl o anaf. Y mae hefyd yn hanfodol i'r bobl hynny sy'n darparu gofal, p'un ai'r ydynt yn aelodau o'r teulu ynteu'n ofalwyr cyflogedig, gan ei fod yn eu galluogi i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol.

Nid yw'r costau'n deillio o bryniant yn unig. Er enghraifft, rhaid cynnal a chadw offer a'u rhoi ar brawf yn rheolaidd. Ni ellir ailgylchu offer heb eu glanhau, eu dadlygru, a gweithredu gweithdrefnau rheoli heintiad arnynt.

Mae'r gwasanaeth yn gofyn darlun manylach o'r galw a'r gwariant er mwyn cynllunio i'r dyfodol. Gellir cyflawni hyn drwy weithredu trefn 'dilyn ac olrhain' ar gyfer offer, ynghyd â systemau da ar gyfer darparu gwybodaeth i reolwyr.

Mewn gair, mae arnom angen gwneud gwell defnydd o adnoddau a sicrhau arfer gorau o ran rhagnodi, caffael, storio, danfon, ffitio, arddangos, trin, casglu, glanhau, dadlygru, ailgylchu, a rheoli perfformiad. Unwaith eto, mae hyn yn gofyn systemau da ar gyfer darparu gwybodaeth i reolwyr.

Cyfeirir yn Adolygiad Beecham, “Ar Draws Ffiniau”, at yr angen i wneud gwell defnydd o adnoddau:–  “...rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyrraedd lefelau uwch o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd — rhaid peri bod punt yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mynd ymhellach ac yn cael ei gymhwyso'n fwy effeithiol.”

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales
Contact Us Cymraeg