Sut y gallwch gymryd rhan?
Mae’n hollbwysig bod defnyddwyr a gofalwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau offer cymunedol. Gallant wneud cyfraniad ar sawl lefel. Fel unigolion gallant gyfrannu ar sail eu profiad eu hunain o ddefnyddio'r gwasanaeth. Gellir casglu'r wybodaeth hon yn ystod y broses asesu, yn ystod y cam adolygu, neu drwy ryw fath o arolwg.
Gall defnyddwyr a gofalwyr gyfrannu yn ogystal drwy gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a datblygu'r gwasanaeth drwy gael eu cynrychioli ar y gwahanol fforymau sydd â'r gorchwyl o ddatblygu'r gwasanaeth.
|