Beth yr ydym yn ei olygu wrth wasanaethau offer cymunedol?
Mae offer cymunedol yn helpu i ddiwallu anghenion pobl o ran iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ac yn helpu i liniaru risg a hybu annibyniaeth. Mae gwasanaethau offer cymunedol yn cynnwys:-
- Offer nyrsio cartref megis taclau codi, matresi lliniaru pwysau a chomodau
- Offer ar gyfer bywyd bob dydd, megis cadeiriau a stolion cawod, lifftiau bath, a seddi toiled uchel
- Offer ar gyfer plant
- Offer ar gyfer pobl gydag amhariadau synhwyraidd, megis cymhorthion golwg gwael, ffonau testun, a dyfeisiadau gwrando cynorthwyol
- Teleofal megis canfodyddion mwg, tymheredd, nwy a llifogydd
|