Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Generig): Cefndir
Beth yw pwrpas y prosiect yma?
Pwrpas y prosiect yma yw datblygu rôl y gweithwyr cefnogi sy’n cyflenwi gofal i bobl h?n yn y gymuned. Y syniad yw y bydd gweithiwr cefnogi newydd, Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Generig), yn cael ei ddatblygu fydd â’r sgiliau i ddarparu gofal personol ac a fydd yn cyfarfod ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.
Bwriad cyffredinol y prosiect hwn yw y bydd pobl h?n yn y gymuned sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cefnogi gan Weithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Generig).
Pam y digwyddodd y prosiect yma?
Fe nododd ‘Strategaeth Pobl H?n yng Nghymru’ (LlCC, 2003) Llywodraeth Cynulliad Cymru'r angen i ‘ddatblygu gwasanaethau newydd hyblyg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy’n cefnogi ac yn cynnal annibyniaeth pobl h?n’.
Ar hyn o bryd mae gweithwyr cefnogi yn Sir Ddinbych sy’n gweithio yn y gymuned (yn hytrach nag mewn ysbytai) un ai’n gyflogedig gan Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, neu’n gyflogedig gan sefydliadau preifat sydd un ai’n gwneud proffid neu’n ddim (h.y. sefydliadau’r sector breifat neu’r sector wirfoddol). Mae’r gweithwyr cefnogi hyn yn tueddu i fod un ai wedi eu hyfforddi mewn gweithgareddau gofal iechyd neu mewn gweithgareddau gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae gan lawer o bobl anghenion iechyd a gofal cymdeithasol felly mae gan rai pobl fwy nag un gweithiwr cefnogi sy’n dod i’w cefnogi.
Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno y câi llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth, yn enwedig pobl h?n, well canlyniadau iechyd (yn gwella’n gynt) o dderbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain pan fyddant yn wael. Gall ysbytai fod yn llefydd dryslyd iawn. Wedi cyfnod mewn ysbyty mae rhai pobl yn ei chael yn adnodd i addasu i fywyd yn y cartref pan gânt eu rhyddhau, fell mae’n cymryd hirach i wella.
I sicrhau fod pobl yn derbyn y driniaeth iawn gartref, yn aml mae yna lawer o bobl broffesiynol sydd ynghlwm â’u gofal, er enghraifft, Nyrsus Ardal, nyrsys arbenigol, Therapyddion Galwedigaethol, ffisiotherapyddion, Gweithwyr Cymdeithasol, Meddygon Teulu a llawer o rai eraill. Yn aml fe ymgymeri â gofal dyddiol am bobl yn eu cartrefi eu hunain gan ofalwyr cefnogi sy’n cydweithio’n agos gyda’r bobl broffesiynol hyn. Cred y tîm prosiect y caiff y defnyddwyr gwasanaeth well cefnogaeth i wella o’u salwch gyda help Gweithwyr Cefnogaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n deall y gwaith ac sy’n cydweithio’n agos â’r holl bobl broffesiynol sydd ynghlwm â’u gofal.
Fe wahoddwyd yr Uned Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles i gyflwyno cynnig am ariannu Grant Gweithiol ar y Cyd ar gyfer prosiectau i ddatblygu gweithio ar y cyd gan ddefnyddio peirianwaith hyblygrwydd adran 31 Deddf Iechyd 1999 [ers hynny fe’i disodlwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd Cenedlaethol (Cymru) 2006 Adran 33]. Fe gymeradwywyd y cynnig i ddatblygu Gweithiwr Cefnogi Generig. Fe gychwynnodd y prosiect ym mis Hydref 2006 (dyddiad cychwyn Rheolwr Prosiect) a bydd yn gorffen fis Mawrth 2007.
Sut y Gallwn Gyflawni Hyn: Cynllun y Prosiect
Rydym wedi nodi tair tasg fel y rhai pwysicaf i beri i hyn ddigwydd
- Datblygu rhaglen hyfforddi gydnabyddedig ar gyfer Gweithwyr Cefnogi Generig
- Cyflogi gr?p bychan o Weithwyr Cefnogi Generig i sicrhau fod y gofal a ddarperir o safon uchel iawn a bod y gofal hwn yn cyfrannu at well iechyd a lles a lefelau cynyddol o annibyniaeth i’r defnyddwyr gwasanaeth. Caiff hwn ei alw’n prosiect peilot.
- Ymestyn model y Gweithiwr Cefnogi Generig yn ehangach
Beth wnaethpwyd hyd yma?
Cychwyn cyntaf y prosiect hwn oedd ym mis Rhagfyr 2005 pan gyflwynodd Tîm Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles gynnig am y prosiect i Gronfa Grant Gweithio ar y Cyd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn dilyn llwyddiant cyflwyno’r cynnig am y bid fe recriwtiwyd rheolwr prosiect. Fe ddechreuodd Tracey English ar ei gwaith ym mis Hydref 2006. Dyma’r gwaith sydd wedi digwydd hyd yma:
- Recriwtio tîm prosiect aml asiant
- Gwnaethpwyd gwaith ymchwil cefndirol, gyda diddordeb arbennig mewn prosiectau tebyg.
- Datblygwyd grwpiau gweithgor o’r tîm prosiect ac maent i gyd yn gweithio i gynllun gweithredu manwl sy’n cwmpasu rhan benodol o’r prosiect.
- Cynhaliwyd diwrnod/lansiad gwybodaeth
- Fe recriwtiwyd chwe gweithiwr cefnogi oedd ag NVQ lefel 2 neu 3 yn barod ar gyfle dysgu 11 wythnos oedd yn cynnwys lleoliadau dysgu drwy brofiad a dyddiau hyfforddi. Rydym wedi gwerthuso’r cyfle dysgu, wedi ysgrifennu adroddiad werthuso ac wedi gwneud argymhellion am anghenion hyfforddi Gweithiwr Cefnogi Generig.
- Mae gennym well syniad o’r math o bethau y dylai Gweithiwr Cefnogi Generig allu eu gwneud er mwyn cefnogi adferiad a gofal pobl h?n yn y gymuned
Yr hyn a wnawn ni’n awr
Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gynllunio’r prosiect peilot. Bydd yn bwysig iawn i hyfforddi nifer fechan o Weithwyr Cefnogi Generig a gwneud yn si?r fod y gefnogaeth y maent yn ei roi i bobl yn eu cartrefi eu hunain yn gwneud gwahaniaeth. Fel rhan o’r gwerthusiad fe fyddwn yn siarad â’r defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau’r teulu sy’n gwybod beth y mae’r gefnogaeth hon wedi ei olygu iddynt.
|