Healthy Denbighshire
"" Cymraeg A-Z Contact Us Cymraeg
Cartref
Beth yw Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol? Sut y Gallaf Ddod o Hyd i Weithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Sut y Gallaf  Ddod o Hyd i Weithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Y sefyllfa bresennol: Datblygiad Gwasanaeth Ymateb Critigol Gofal Canolraddol

Mae Gwasanaeth Ymateb Critigol yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r Gofal Canolraddol.  Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu ymateb sydyn i bobl h?n sy’n wael.  Os penderfynir y bydd y person yn gwella’n gynt o dderbyn gofal gartref fe wnaiff y Gwasanaeth Ymateb Critigol yn si?r y bydd y person yn derbyn y gofal cywir gan y Nyrsus Ardal, Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Cefnogi Gofal Cymdeithasol.

Caiff Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu cyflogi fel rhan o’r Tîm Gwasanaeth Ymateb Critigol i gefnogi pobl sydd ag anghenion cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol.

Ar hyn o bryd y Gwasanaeth Ymateb Critigol Gofal Canolraddol yw’r unig le y bydd Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio yn Sir Ddinbych.  I ddarganfod sut i gysylltu â’r gwasanaeth gofal critigol cliciwch yma.


Y Dyfodol


Fodd bynnag, yn y dyfodol gweddol agos gobeithiwn y bydd y Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhan o wasanaethau eraill, er enghraifft:

  • Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth nyrsio ardal yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu’r rôl yma fel rhan o’u proses foderneiddio.
  • Mae Cartrefi Gofal Ychwanegol wedi nodi’r angen am Weithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mae gwasanaethau gofal lliniarol wedi nodi’r angen am Weithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gydweithio’n agos gyda phobl broffesiynol i gefnogi pobl sy’n dymuno marw yn eu cartrefi eu hunain
  • Mae gwasanaethau Anabledd Dysgu â diddordeb mewn cyflogi Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mae prosiect peilot arall yng Ngogledd Cymru lle mae Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi eu hyfforddi a’u cyflogi i gefnogi pobl gydag anabledd corfforol

Bydd y tîm prosiect yn edrych ar sut y gallwn ni gefnogi datblygiad model y Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y gwasanaethau eraill hyn.

Maes pwysig i’r sefydliadau sydd ynghlwm â’r prosiect hwn ei ystyried fydd ariannu rôl y Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Ar hyn o bryd, caiff pobl sydd wedi eu hasesu i fod angen cefnogaeth gyda gofal personol yn cael eu hasesu ymhellach i benderfynu os bydd yn rhaid iddynt wneud cyfraniad tuag at y gofal.  Yr eithriadau yw:

  1. pobl sydd wedi eu hasesu i fod ag anghenion Gofal Iechyd Parhaus (mae hyn yn cynnwys pobl sy'n derfynol sâl a rhai pobl sydd â phroblemau iechyd hir dymor)
  2. a phobl sydd angen cefnogaeth tymor byr gyda gofal personol oherwydd eu bod yn wael (er enghraifft pobl sy’n gymwys i dderbyn Gofal Canolraddol - fel rheol am gyfnod o hyd at 6 wythnos).  Yn yr achosion hyn ni fydd pobl sydd wedi eu hasesu i fod angen gofal personol oherwydd eu bod yn wael yn cyfrannu’n ariannol o gwbl i’r gofal hwn.

I bobl sydd wedi eu hasesu (fel rheol gan bobl broffesiynol ym maes iechyd) i fod angen cefnogaeth gofal iechyd (anghenion sy’n gysylltiedig â salwch rhywun ond nad oes angen eu gweithredu gan berson proffesiynol cymwysedig), caiff y gofal hwn ei ddarparu am ddim.
Bydd Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi pobl sydd wedi eu hasesu i fod angen cefnogaeth gydag iechyd a gofal cymdeithasol.  Fel bod gwasanaethau eraill yn gallu cyflogi Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol bydd gofyn i sefydliadau partneriaeth gydweithio i sicrhau fod pawb yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen i fyw mor annibynnol ag sydd bosib, a bod y cyfraniadau ariannol gan unigolion am eu gofal yn deg ac yn gyfartal.

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales
A-ZContact Us Cymraeg