Healthy Denbighshire
"" Cymraeg A-Z Contact Us Cymraeg
Cartref
Beth yw Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol? Sut y Gallaf Ddod o Hyd i Weithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Cynllun Y Prosiect: Datblygu’r Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Generig)

Swyddogaeth

Y Prif Dasgau

Rydym wedi nod 4 prif dasg fel y rhai pwysicaf i ddatblygu rôl y Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

  1. Penderfynu’r hyn a wneir gan y Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  1. Datblygu rhaglen hyfforddiant gydnabyddedig i Weithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel y gallant gyflawni eu rôl i safon uchel iawn.
  1. Cyflogi gr?p bychan o Weithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau fod y gofal a ddarperir o safon uchel iawn a bod y gofal hwn yn cyfrannu tuag at well iechyd a lles a lefelau uwch o annibyniaeth i’r defnyddwyr gwasanaeth.  Caiff hyn ei alw’n brosiect peilot.
  1. Ymestyn model y Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ehangach i wasanaethau eraill, er enghraifft Cartrefi Gofal Ychwanegol, gwasanaethau anabledd corfforol, pobl hefo problemau iechyd hir dymor a gofal lliniarol

 

Yr hyn a gyflawnwyd hyd yma

Cychwyn cyntaf y prosiect hwn oedd ym mis Rhagfyr 2005 pan gyflwynodd Tîm Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles gynnig am y prosiect i Gronfa Grant Gweithio ar y Cyd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn dilyn cais llwyddiannus mae Rheolwr Prosiect wedi'i recriwtio i ddechrau gweithio ym mis Hydref 2006.

Dyma’r gwaith sydd wedi digwydd hyd yma:

  1. Fe ffurfiwyd Tîm Prosiect gyda gweithwyr o Ymddiriedolaeth NHS Gogledd Cymru, ac o’r sector breifat a’r sector wirfoddol.  traws lwythwch strwythur prosiect
  1. Datblygwyd grwpiau gweithgor o’r tîm prosiect ac maent i gyd yn gweithio i gynllun gweithredu manwl yn cwmpasu rhan benodol o’r prosiect.
  1. Gwnaethpwyd gwaith ymchwil cefndirol, gyda diddordeb arbennig mewn prosiectau tebyg.
  1. Cynhaliwyd diwrnod/lansiad gwybodaeth.
  1. Fe recriwtiwyd chwe gweithiwr cefnogi oedd ag NVQ lefel 2 neu 3 yn barod ar gyfle dysgu 11 wythnos oedd yn cynnwys lleoliadau dysgu drwy brofiad a dyddiau hyfforddi.  Rydym wedi gwerthuso’r cyfle dysgu, wedi ysgrifennu adroddiad werthuso (gellir cael copi os gofynnir) ac wedi gwneud argymhellion am anghenion hyffordio Gweithiwr Cefnogi Generig.
  1. Mae rhaglen hyfforddi i grwp cyntaf gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'i ddatblygu a'i weithredu gan gyd-gordiwr hyfforddiant a gyflogir yn y rôl hon trwy gronfeydd prosiect.

  1. Mae'r rôl yn cael ei dreialu hefo'r Gwasanaethau Ymateb Gofal Canolraddol
  1. Mae'r 8 gweithiwr cynnal Gofal Cymdeithasol wedi cwblhau eu hyfforddiant  oedd yn cynnwys Tystysgrif Dechnegol mewn Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol, pecynnau dysgu ychwanegol ac NVQ mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar lefel 3.

 

Yr hyn a wnawn ni’n awr

Rydym yn y broses o werthuso'r gwasanaethau a ddarparwyd gan y grwp cyntaf o weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Bydd y tîm prosiect yn rhannu'r dysgu a ddigwyddodd hefo comisiynwyr gwasanaethau a thrafod datblygu'r grwp nesaf o weithwyr cynnal Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae copi o'r adroddiad interim diweddaraf a anfonwyd at Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gael os gofynnir.

 

Mae'r tîm prosiect yn siarad hefo'r cynghorau Sgiliau Cenedlaethol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Skills for Health and the Care Council 4 Wales) am ddulliau Cenedlaethol o ddatblygu hyfforddiant i'r rol hon.

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales
A-ZContact Us Cymraeg