Beth yw Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol?
Caiff Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu hyfforddi gyda defnyddwyr gwasanaeth h?n yn y gymuned sydd ag anghenion cefnogi gofal cymdeithasol ac iechyd.
Beth yw ‘Anghenion Cefnogi’?
Anghenion cefnogi yw’r anghenion hynny nad oes angen person proffesiynol cymwysedig fel gweithiwr cymdeithasol, nyrs neu Therapydd Galwedigaethol, ond a ellir eu gweithredu gan weithiwr cefnogol sydd wedi ei hyfforddi’n dda. Fel rheol caiff y gweithwyr cefnogi eu hyfforddi gan y bobl broffesiynol y byddant yn cydweithio â nhw ac mae gan amryw gymhwyster NVQ lefel 2 neu 3. O ran Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd sy’n gweithio yn y gymuned gyda Nyrsys Ardal, mae ganddynt i gyd NVQ lefel 3.
Enghreifftiau o angen cefnogi gofal iechyd fyddai:
- Angen rhoi gwaed ar gyfer prawf diagnostig
- Angen help i ofalu am gathetr
- Angen help i wisgo hosan gywasgu (elwir hefyd yn hosan TED)
Enghreifftiau o angen cefnogi gofal cymdeithasol fyddai:
- Angen help gydag ymolchi a gwisgo
- Angen cymorth gyda rheoli anymataliaeth a help gyda dillad golchi
- Angen cefnogaeth gyda rheoli arian
Sut y mae pobl yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd?
Yn y gymuned ar hyn o bryd fel rheol caiff anghenion cefnogi gofal iechyd ac anghenion cefnogi gofal cymdeithasol eu darparu gan wahanol weithwyr cefnogi fel rheol. Caiff anghenion cefnogi gofal iechyd eu darparu gan Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd (sy’n cydweithio â Nyrsys Ardal), ac sy’n cael eu cyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Sir Ddinbych. Yn Sir Ddinbych caiff anghenion cefnogi gofal cymdeithasol eu darparu un ai gan Weithwyr Cefnogi Gofal Cartref gyflogir gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych neu gan Weithwyr Cefnogi Cartref a gyflogir gan ddarparwyr gofal cartref yn y sector annibynnol neu sefydliadau yn y sector wirfoddol.
Beth fydd Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei wneud?
‘Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn ystyried fod ganddyn nhw un ai anghenion gofal iechyd na gofal cymdeithasol neu’r ddau. Yn syml mae arnynt eisiau’r gefnogaeth iawn i’w helpu i yw mor annibynnol ac mor llawn ag sydd bosib yn eu cymunedau eu hunain.
Caiff Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu hyfforddi i gefnogi pobl i gyfarfod ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd holistig bersonol (linc i’r eirfa). Cred y tîm y bydd gweithio fel hyn yn gwneud i’r defnyddwyr gwasanaeth deimlo’n llai dibynnol ar eu gweithwyr cefnogi, ac fe fydd eu lles yn gwella o’r herwydd.
4 prif faes gwaith Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol fydd:
-
I wylio ac adrodd unrhyw newidiadau yng nghyflwr y bobl y maent yn gofalu amdanyn nhw i berson proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol (er enghraifft, fe all Gweithiwr Cefnogi Generig rybuddio Nyrs Ardal o arwyddion cynnar o fan gwasgu, a chyda’r driniaeth gywir gan Nyrs Ardal gellir osgoi dolur gwasgu). Fe fydd gan y Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddealltwriaeth o ‘bwy sy’n gwneud be’ yn yr ardal leol ac fe all gyfeirio pobl i gael mwy o gyngor a gwybodaeth fel y bo’r angen. Bydd Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn gallu rhoi cyngor sylfaenol ar atal problemau, er enghraifft, sut i osgoi codymau yn y cartref.
-
Bydd Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn treulio amser yn gweithio gyda Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion fel rhan o’u hyfforddiant fel y gallant sicrhau bod yr holl gefnogaeth a roddant i ddefnyddwyr gwasanaeth yn eu gwneud yn fwy hyderus yn eu gallu, ac yn fwy annibynnol ar ofal.
-
Bydd Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn fedrus i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth gyda’u hanghenion gofal cymdeithasol yn cynnwys cefnogaeth gyda gofal personol.
-
Bydd Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn derbyn hyfforddiant mewn rhai sgiliau fyddai ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan Weithwyr Cefnogi Gofal Cymdeithasol neu Gynorthwywyr Therapi Galwedigaethol (elwir weithiau’n Hyfforddwyr Technegol, HT). Bydd Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio’n agos iawn â Nyrsus Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion a byddant yn cefnogi’r bobl broffesiynol hyn yn eu gwaith drwy adrodd am les y defnyddwyr gwasanaeth yn rheolaidd.
|