Sir Ddinbych Iach
"" English
 
CartrefStrategaeth 2008-2011
""

Grantiau ar gyfer Cydweithio / Hyblygrwydd Cynyddol

Cefndir

Fe hoffem ni i gyd gael gwasanaethau sy’n ein hamddiffyn ac sy’n gwella ein hiechyd a’n lles.
 
I wneud hyn mae trefniadau wedi eu gwneud i ganiatáu i awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol gydweithio’n agos. 

Gellir gwneud hyn un ai drwy gyfuno gwasanaethau presennol, neu ddatblygu gwasanaethau newydd a gweithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau fod yna ymateb effeithiol.

Cyflwynodd Deddf Iechyd 1999 drefniadau (Hyblygrwydd Cynyddol) i wneud cydweithio agosach mewn partneriaeth yn bosibl. 


Mae’r Hyblygrwydd Cynyddol yn caniatáu i sefydliadau ganolbwyntio eu sylw ar anghenion eu cleientiaid gan ddileu rhai o’r pryderon am gyfyngiadau sefydliadol.

Mae Hyblygrwydd Cynyddol yn annog cydweithio rhwng iechyd a llywodraeth leol a hefyd yn caniatáu i bartneriaid ‘Gyfuno Adnoddau’ a throsglwyddo swyddogaethau a chyfrifoldebau drwy ‘Gomisiynu Arweiniol’ a ‘Darpariaeth Integredig’.

Y Grant Cydweithio

Fe ddyluniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru’r Grant Cydweithio i ddarparu cefnogaeth i awdurdodau lleol wrth sefydlu partneriaethau gydag iechyd. 

Gellir defnyddio’r Grant Cydweithio 2006-08 i ddatblygu gwasanaethau ar y cyd i grwpiau o gleientiaid yn cynnwys:

  • pobl hyn
  • plant
  • gofalwyr
  • pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn cynnwys ymddygiad anhydrin
  • pobl gydag anabledd dysgu
  • pobl gydag anabledd corfforol/synhwyraidd

Gobeithir y bydd gwelliannau mewn trefniadau gweithredol yn caniatáu ffyrdd newydd o feddwl am y ffordd y darperir gwasanaethau a dylai hyn wella gwasanaethau ar gyfer cleientiaid a gwella iechyd a lles lleol.

Pwy sy’n ymglymedig?

Gellir defnyddio Hyblygrwydd Cynyddol gydag unrhyw wasanaeth sy’n ‘berthynol i iechyd’ y mae’r awdurdod lleol yn ei ddarparu. 

O fewn awdurdod lleol, mae hyn yn golygu  gwasanaethau cymdeithasol fel rheol ond gall partneriaeth hefyd olygu:

  • Gwasanaethau Tai
  • Addysg
  • Trafnidiaeth
  • Hamdden, adloniant, a gwasanaethau llyfrgell
  • Gwasanaethau cymuned a llawer o wasanaethau llym
  • Iechyd amgylcheddol ac yn y blaen

Gall Cyfranogwyr eraill gynnwys:

  • Partneriaid GIC
  • Partneriaid y Sector Wirfoddol
  • Grwpiau cynllunio presennol
  • Timau Gweithredu Lleol
  • Cynlluniau Gweithredu Wanless Lleol
  • Strategaethau Iechyd a Lles
  • Grwpiau Cynllunio Cefnogi Pobl
  • Cynrychiolwyr o’r sector annibynnol
  • Grwpiau defnyddwyr, eu cynrychiolwyr a’u gofalwyr

Defnydd o Grant Ariannu Cydweithio o fewn Sir Ddinbych (2006/08)

Cyfanswm y dyraniad grant am 2006/08 yw £22.1 miliwn dros ddwy flynedd ariannol, ac o’r rheiny mae:

  • £4.4 miliwn i gefnogi aelodaeth awdurdod lleol o’r Byrddau Iechyd Lleol, yn cynnwys datblygu Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. 

Mae hwn wedi ei ddosbarthu’n gyfartal dros y 22 awdurdod yng Nghymru (£100,000 yr un):

  • Mae £17.7 miliwn i gefnogi cymryd systemau hyblygrwydd.

Gwnaeth Sir Ddinbych gynnig llwyddiannus am grant o £399,161 yn 2006/07 a £399,161 yn 2007/08.  Mae ariannu’n cael ei ddefnyddio ar draws ystod eang o wasanaethau, ac ystod o grwpiau cleientiaid, sy’n cyfarfod â blaenoriaethau lleol.  O fewn Sir Ddinbych mae hyn yn cynnwys:

  • Gofal Canolraddol
  • Cofrestr Plant ag Anabledd (Barnardos)
  • Teleofal mewn Partneriaeth
  • Integreiddiad Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol (IGCC)
  • Gweithiwr Prosiect Anabledd (Plant ac Oedolion)
  • Partneriaeth Meddyg Cynorthwyol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith (GThLlI)
  • DEMIST

Mae’n bosib y bydd pob prosiect a gefnogir yn dod yn rhan o’r gwasanaethau dyddiol a ddarperir gan y sefydliadau partneriaeth.

 

Your Name:
Organisation:
Your email address (optional):
Telephone number (optional):
If you would like us to contact you, would you prefer a telephone call or an email? Telephone
Email
I don't mind
Your comment / enquiry:
 

 

 

 

 

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales