"" Her Iechyd Sir Ddinbych Newid am Oes

Croeso i Sir Ddinbych lach (Welsh)

""

 

Mae strategaeth newydd Sir Ddinbych Iach yn amlinellu cynlluniau a fydd yn help i wella iechyd a lles pobl Sir Ddinbych. Gellir llwytho’r strategaeth i lawr drwy glicio ar y ddelwedd isod neu fe allwch bori drwy dudalennau’r wefan hon a chael gwybodaeth fanylach am yr hyn y bwriadwn ei wneud a sut yr ydym yn dod ymlaen.

 

 

Healthy Denbighshire Strategy

 

Cliciwch yma neu ar y ddelwedd uchod i lawrlwytho fersiwn PDF y strategaeth.

Mae llawer o wybodaeth wedi mynd i ddatblygu 'Sir Ddinbych Iach' ac mae hyd yn oed mwy o wybodaeth yn cefnogi'r gwaith o weithredu a monitro'r strategaeth hon.

Er enghraifft, mae gan bob amcan ystod o ddogfennau a chynlluniau gweithredu cefnogol sy'n esbonio pam, sut, pryd a beth rydym yn ei wneud.

Gellir canfod gwybodaeth fanwl trwy glicio ar y linc, er enghraifft Fframwaith Gwasanaethau Cymunedol, fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i'r manylion.

Neu ffoniwch 01824 708363 a gofynnwch am gael postio gwybodaeth atoch.

Roeddem eisiau osgoi eich gorlwytho gyda gwybodaeth ddiangen, ond rydym eisiau i chi wybod bod y wybodaeth ar gael i'r sawl ohonoch a hoffai fanylion pellach.

Drwy roi'r wybodaeth ar gael ar gais ac yma ar-lein gallwn helpu i leihau gwastraff papur a sicrhau fod y wybodaeth sydd ar gael yn cael ei diweddaru cyn gynted ag sydd bosib.

Mae gwybodaeth bellach ar gael i'w lawrlwytho ym Mhecyn Gwybodaeth (PiN PaC) Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.

Mae'r Strategaeth ar gael mewn print bras neu ar ffurf audio os gofynnir.

Cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar 01824-708363 neu ar hscwb.admin@denbighshire.gov.uk