"" Her Iechyd Sir Ddinbych Newid am Oes

 

 

Teleofal

""

 

Mae Teleofal yn disgrifio unrhyw wasanaeth sy’n dod ag iechyd a gofal cymdeithasol yn uniongyrchol at y defnyddiwr yn eu cartref, gyda chefnogaeth technoleg gwybodaeth a chysylltiadau. Mae Teleofal yn cwmpasu ystod eang o gyfarpar (synwyryddion,  monitorau, larymau, larymau gwddf etc) a gwasanaethau (asesiad, gosod, monitro, canolfannau galw ac ymateb).

Mae Teleofal yn cynnwys synwyryddion neu fonitorau (er enghraifft, synwyryddion llif neu godwm) sy’n sbarduno rhybudd mewn canolfan reoli ac fe ellir ymateb iddo’n sydyn os bydd angen.

Mae yna ystod o ymatebion posibl, rhai wedi eu sefydlu eisoes a rhai sydd angen eu datblygu.  Er enghraifft gofalwr ffurfiol, ambiwlans, gwasanaeth tân neu dîm ymateb teleofal ymroddedig.

Prif fanteision teleofal yw:

Mae Teleofal yn cynnwys teleiechyd, sef monitro pell arwyddion bywyd (er enghraifft, pwysedd gwaed) ar gyfer diagnosis, asesiad ac ataliad. Fe drosglwyddir data i ganolfan ymateb neu gyfrifiadur clinigwr lle  y caiff ei fonitro yn erbyn paramedrau cytûn. Mae hyn yn caniatáu ymyrraeth gynnar, a allai olygu osgoi problemau yn y dyfodol a’r angen i osod mewn ysbyty.  Gellir ei ddefnyddio hefyd i alluogi rhyddhad cynnar o ysbyty.

Dylid defnyddio cyfarpar Teleofal fel teclyn ychwanegol mewn pecyn o ofal a chefnogaeth neu fel opsiwn i ymestyn annibyniaeth, ac nid fel amnewidiad am wasanaethau gofal personol.

 

Mae hwn yn awr yn wasanaeth prif lif ac mae’r safle hon yn y broses o gael ei diweddaru.  I gael rhagor o wybodaeth ar y gwasanaeth hwn cysylltwch â:

 

Emily Jones-Davies
Telecare & Extra Care Sheltered Housing Project Manager
Social Services & Housing
Ty Nant

Nant Hall Road

Prestatyn
Denbighshire
LL19 9LU

Telephone: 01824 706504

Email:  emily.jones-davies@denbighshire.gov.uk

 

Telecare Leaflet - Cliciwch yma i gael gwybodaeth