Teleofal mewn Partneriaeth – Manylion y Prosiect
Drwy ariannu gan y Grant Gweithio ar y Cyd, mae Cydlynydd Teleofal/Teleiechyd wedi ei recriwtio i weithio ar draws yr holl asiantaethau partner. Bydd y Cydlynydd yn ei swydd hyd at fis Mawrth 2008 pan ddechreuir gweithredu Teleofal/Teleiechyd ar draws Sir Ddinbych.
Rôl Cydlynydd Teleofal yw cyfarfod â nodau ac amcanion Prosiect Teleofal mewn Partneriaeth. Y rhain yw:
- Mapio gwasanaethau a sefydliadau presennol fyddai’n gallu derbyn Teleofal i gyfarfod ag anghenion gofal a chefnogaeth pobl yn well.
- Gwneud gwaith paratoadol i sicrhau fod sail dechnolegol, polisïau a gweithdrefnau ac ymwybyddiaeth broffesiynol wedi eu sefydlu cyn gweithredu Strategaeth Teleofal.
- Cynorthwyo gyda datblygu Strategaeth Teleofal leol, mewn partneriaeth â Thai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy a Sir Ddinbych, gan adeiladu’n benodol ar y bartneriaeth hyd yma rhwng Gwasanaethau Cytundeb a’r Storfa Gyfarpar Anabledd.
- Cynhyrchu cynllun prosiect hyfforddi i sicrhau fod pob ymarferwr ym mhob sector yn cael cyfle i fod yn ymwybodol fod asesiad Teleofal yn integrol i’r broses asesu.
- Cefnogi datblygiad peilotiau Teleofal/Teleiechyd ar draws ystod o wasanaethau, e.e. Pobl H?n, Anabledd Dysgu, Anabledd Corfforol, Cyflyrau Tymor Hir, Strategaeth Codymau, Gofal Canolraddol etc. yn cynnwys cysylltiad ac ymglymiad â gofalwyr a grwpiau gofalwyr.
- Datblygu cysylltiadau gyda Storfa Cyfarpar Anabledd Sir Ddinbych i sicrhau rheolaeth effeithlon ac effeithiol o gyfarpar Teleofal.
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd a’r ystod eang o systemau Teleofal sy’n helpu pobl i oresgyn problemau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol ac i reoli’r risgiau cysylltiol.
- Cyfrannu i adroddiadau, rhestru llwyddiannau’r prosiect
a nodi’r materion a’r risgiau sydd yngl?n â rheolaeth newid a chyflwyno casgliadau i’r Gr?p Llywio ar gyfer y prosiect.
- Cyflwyno adroddiadau eithriadau rheolaidd a chlir ar statws y prosiect hwn i’r Bwrdd Partneriaeth Strategol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ac i gyrff statudol eraill fel y bo’r angen.
- Defnyddio ymarfer gorau o adrannau eraill lle bo hynny briodol.
Fe sefydlwyd nifer o Grwpiau Allweddol i yrru’r prosiect Teleofal/Teleiechyd yn ei flaen. Mae’r rhain yn cynnwys:
GR?P COMISIYNU TAI – Fel rhan o strwythurau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles bydd y gr?p hwn yn adrodd i Fwrdd Partneriaeth Pobl H?n Sir Ddinbych, Gr?p Nam Corfforol a Synhwyraidd a’r Gr?p Cynllunio Strategol Anabledd Dysgu. Bydd y gr?p yn gweithredu fel Gr?p Llywio ar gyfer y gwasanaethau Teleofal/Teleiechyd o fewn Sir Ddinbych.
PANEL YMGYNGHOROL LLINELL FLAEN (Gyda ffocws cychwynnol ar Teleofal/Teleiechyd) – I godi ymwybyddiaeth ymysg pobl broffesiynol sy’n darparu sianel ar gyfer materion, pryderon a/neu syniadau y dylid ymdrin â nhw.
GR?P UWCH TASG A GORFFEN AMSER CYFYNGEDIG – Bydd yn arwain datblygiadau Peilotiau o fewn Teleofal/Teleiechyd, i alluogi datblygiad/cynllunio cynlluniau peilot a ariennir drwy lithriad Grant Gweithio ar y Cyd fel rhan o’r broses newid ac i sefydlu protocol a llwybrau gofal.
FFORWM CYFRANOGWYR – Fforwm lle gall aelodau gyfnewid gwybodaeth ar ddatblygiadau perthynol gan ganolbwyntio’n gychwynnol ar Teleofal/Teleiechyd. (Y Fforwm i ymgynnull yn dilyn digwyddiad cyfranogwyr ar Fai 2)
Cliciwch yma am fanylion o strwythur y prosiect.
Mae Teleofal yn cynnig cefnogaeth effeithlon ac anymwthiol ac mae ganddo’r gallu i:
- Alluogi cynnal pobl yn eu cartrefi eu hunain lle bynnag y bo hynny’n bosib.
- Uchafu eu hannibyniaeth a’u potensial
Eu galluogi i gael eu cefnogi gydag urddas mewn amgylchedd diogel.
|