Healthy Denbighshire
"" English
Cartref
Beth yw Teleofal / Teleiechyd? Sut y Gallaf Gyrchu Gwasanaeth Teleofal / Teleiechyd? Cynlluniau Peilot

Cydweithio Rhanbarthol

Mae yna nifer o sefydliadau/asiantaethau y mae gofyn iddyn nhw gydweithio o fewn ardaloedd awdurdodau lleol i sicrhau fod gwasanaethau Teleofal effeithiol yn cael eu datblygu, yn cynnwys: Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Cefnogi Pobl, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Gwasanaeth Ambiwlans, Gwasanaeth Tân, gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau, grwpiau defnyddwyr gwasanaeth a’r sector Wirfoddol.

Mae yna fanteisio hefyd mewn ystyried sut y mae cydweithio ar draws yr awdurdod yn gallu adeiladu ar fentrau lleol, a chyfrannu at wasanaethau teleofal gwell a defnydd effeithlon o adnoddau.  Yng Ngogledd Cymru mae’r chwe awdurdod lleol yn archwilio’r manteision potensial drwy brosiect rhanbarthol.


Y prif fannau lle mae cydweithio rhanbarthol yn debygol o fod o fantais yw:

  • Safonau cyffredin ar gyfer gwasanaethau teleofal e.e. cyfeiriad, asesiad, cyfarpar, gwasanaethau  monitro ac ymateb a chodi tâl. Byddai safon gwasanaeth cyffredinol ar draws Gogledd Cymru yn osgoi’r ‘loteri cod post’ ac yn darparu llwybr cyffredin lle mae ysbytai’n gweithredu i fwy nag un awdurdod lleol.  Byddai hyn hefyd yn osgoi’r angen i bob ardal orfod datblygu ei systemau a phrotocol ei hun.

  • Gwasanaethau ymateb wedi eu rhannu - Mae yna botensial i ddatblygu gwasanaeth wedi ei rannu neu wasanaeth cilyddol rhwng ardaloedd yr awdurdod lle bo amseroedd teithio’n golygu fod gwasanaeth ymateb cymdogol yn gallu ymateb ynghynt.

  • Caffael cyfarpar, gwasanaethau gosod a chynnal cyfarpar. Fe brynir y rhan fwyaf o gyfarpar drwy fframwaith PASA, fydd efallai’n galluogi cyrchiad i ddisgownt seiliedig ar nifer os ymgymerir â chaffael ar y cyd. Mae yna hefyd gyfarpar nad ydynt ar gael dan fframwaith PASA, y gellid eu prynu drwy ddefnyddio consortiwm i ennill disgownt.

  • Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth – gellir cyflawni arbedion cost ac ymdriniaeth gyson i asesu a darnodi teleofal.  Mae yna hefyd botensial ar gyfer tai arddangos/cyfleusterau wedi eu rhannu.
Canolfannau galw rhanbarthol,  ar hyn o bryd mae 5 canolfan alw larymau ar draws Gogledd Cymru, yn cyflawni swyddogaethau tebyg.  Bydd ar rai canolfannau galw angen buddsoddiad pellach i gyfarfod â’r safonau angenrheidiol i weithredu gwasanaeth teleofal llawn. Gellir datblygu un neu ddau o ganolfannau galw i roi darpariaeth ddigonol ar gyfer Gogledd Cymru gyfan.

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales
A-Z Contact Us Cymraeg