Healthy Denbighshire
"" English
Cartref
Beth yw Teleofal / Teleiechyd? Sut y Gallaf Gyrchu Gwasanaeth Teleofal / Teleiechyd? Cynlluniau Peilot

Beth yw Teleofal/Teleiechyd?

Mae Teleofal yn disgrifio unrhyw wasanaeth sy’n dod ag iechyd a gofal cymdeithasol yn uniongyrchol at y defnyddiwr yn eu cartref, gyda chefnogaeth technoleg gwybodaeth a chysylltiadau. Mae Teleofal yn cwmpasu ystod eang o gyfarpar (synwyryddion,  monitorau, larymau, larymau gwddf etc) a gwasanaethau (asesiad, gosod, monitro, canolfannau galw ac ymateb).

Mae Teleofal yn cynnwys synwyryddion neu fonitorau (er enghraifft, synwyryddion llif neu godwm) sy’n sbarduno rhybudd mewn canolfan reoli ac fe ellir ymateb iddo’n sydyn os bydd angen.

Mae yna ystod o ymatebion posibl, rhai wedi eu sefydlu eisoes a rhai sydd angen eu datblygu.  Er enghraifft gofalwr ffurfiol, ambiwlans, gwasanaeth tân neu dîm ymateb teleofal ymroddedig.

Prif fanteision teleofal yw:

  • Y gallu i gyfarfod ag anghenion y gymuned leol yn well, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.
  • Cynnydd yn lefelau annibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, dewis ac ymreolaeth.
  • Cefnogaeth i ofalwyr.
  • Gwell diogelwch felly llai o ddamweiniau a chodymau yn y cartref.
  • Annog ‘cleifion arbenigol’ drwy gynyddu hunan ofal a hunan reolaeth.
  • Lleihau a dileu dibyniaeth cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar wasanaethau gofal cymdeithasol prif lif.
  • Hwyluso rhyddhad amserol o ysbyty/cartref gofal.
  • Lleihad mewn derbyniad i ysbyty.
  • Gostyngiad yn nifer yr apwyntiadau/ymweliadau i ofal eilaidd a chychwynnol.
  • Lleihad yn hyd arhosiad mewn gofal eilaidd i bobl sydd â chyflwr iechyd tymor hir.
  • Datblygiad llwybrau teleofal sy’n cysylltu’n effeithiol gyda gwasanaethau lleol eraill (Nyrsio Ardal, Development of telehealth pathways that link effectively with other local services (District Nursing, y Tu Allan i Oriau etc) a strategaethau lleol (Codymau; Cyflwr Tymor hir; Gofal Canolraddol; Gwasanaeth Cymdeithasol a Lles).

Mae Teleofal yn cynnwys teleiechyd, sef monitro pell arwyddion bywyd (er enghraifft, pwysedd gwaed) ar gyfer diagnosis, asesiad ac ataliad. Fe drosglwyddir data i ganolfan ymateb neu gyfrifiadur clinigwr lle  y caiff ei fonitro yn erbyn paramedrau cytûn. Mae hyn yn caniatáu ymyrraeth gynnar, a allai olygu osgoi problemau yn y dyfodol a’r angen i osod mewn ysbyty.  Gellir ei ddefnyddio hefyd i alluogi rhyddhad cynnar o ysbyty.

Dylid defnyddio cyfarpar Teleofal fel teclyn ychwanegol mewn pecyn o ofal a chefnogaeth neu fel opsiwn i ymestyn annibyniaeth, ac nid fel amnewidiad am wasanaethau gofal personol.

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales
A-Z Contact Us Cymraeg