Achwyn |
Achwyn yw dweud wrth eich cyflogwr am weithgaredd peryglus neu anghyfreithlon yr ydych wedi ei weld drwy eich gwaith. Gall achwyn fod yn gymwys i amrywiaeth o sefyllfaoedd; risgiau iechyd a diogelwch; problemau amgylcheddol potensial; twyll; llygredd; diffygion yng ngofal pobl sy’n agored i niwed; ffug-esgusion; a phroblemau eraill.
Nid caniatáu i weithwyr fynegi pryderon am eu sefyllfa eu hunain yw diben y Polisi Achwyn na chaniatáu i’r cyhoedd gwyno. |
Adfocatiaeth |
Y weithred o ddadlau ar ran mater arbennig, syniad neu berson penodol neu gefnogi rhywun i gael eu clywed |
Adfywiad |
I adfer i gyflwr gwell |
| Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed
| Bydd cynllun Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed yn gweithio fel gwaharddiad gweithlu ar y bobl broffesiynol hynny sydd wedi niweidio oedolion sy’n agored i niwed dan eu gofal. Bydd yn ychwanegu haen ychwanegol o amddiffyniad i’r broses cyn-gyflogi, yn cynnwys gwiriadau Swyddfa Gofnodion Troseddau, sy’n digwydd eisoes a rhwystro camdrinwyr rhag cael mynediad i’r gweithlu gofal. |
Amhariad |
Unrhyw golli neu annormaledd strwythur neu swyddogaeth y corff |
Amhariad Corfforol |
Amhariad corfforol yw cyflwr sy’n effeithio ar y corff, efallai drwy golli golwg neu glyw, anhawster symudedd neu gyflwr iechyd. |
Anabledd Dysgu |
Anhwylderau sy’n effeithio ar allu pobl i un ai ddehongli’r hyn y maent yn ei weld a’i glywed neu i gysylltu gwybodaeth o rannau gwahanol o’r ymennydd. Caiff y cyfyngiadau hyn eu harddangos drwy anhawster darllen, ysgrifennu a rhifyddeg. |
Anghydraddoldeb mewn Iechyd |
Mae’n delio ag anghydraddoldeb mewn iechyd a’r ffactorau sy’n cyfrannu atynt yn cynnwys anghydraddoldeb mewn cyrchiad i wasanaethau |
Asesiad Anghenion |
Proses ffurfiol o adnabod problemau ac asesu galluedd y gymuned i ddelio ag anghenion iechyd a gwasanaeth cymdeithasol. Dyma’r cam cyntaf yn y broses o wella iechyd cymunedol |
Asiantaeth yr Amgylchedd, Cymru |
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad (CNLC), ac sydd hefyd yn rhan o Asiantaeth Amgylcheddol gorfforaethol ar gyfer Lloegr a Chymru. Mae ganddi gyfrifoldebau eang i reoli’r amgylchedd: yn gweithredu fel cefnogwr yr amgylchedd; Lleihau llygredd a gweithredu deddfwriaeth llygredd; Arolygu rheolaeth gwastraff, adnoddau dwr a physgodfeydd dwr croyw; Lleihau’r niwed a achosir gan lifogydd; Dylanwadu ar eraill i gyflawni canlyniadau amgylcheddol positif drwy newid agwedd ac ymddygiad |
Canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ |
Mae’r canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ ar amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed yn galw ar awdurdodau lleol yng Nghymru i fonitro honiadau o gam-drin oedolion. |
Canolfan Dewi Sant |
Siop un stop a chanolfan ddydd yw Canolfan Dewi Sant, yn darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad statudol a sector wirfoddol i bobl sydd wedi eu heithrio’n gymdeithasol, sydd wedi eu hymyleiddio ac sy’n agored i niwed gyda’r bwriad o hyrwyddo, annog a chynorthwyo eu cyrchiad i wasanaethau ac adnoddau priodol er mwyn cyflawni cyfleoedd a all newid bywyd. |
Canolfannau Integredig i Blant |
Mae Canolfannau Integredig i Blant wedi eu seilio ar y cysyniad fod darparu addysg, gofal, cefnogaeth teulu a gwasanaethau iechyd integredig yn ffactor allweddol wrth bennu canlyniadau da i blant a’u rhieni, gan sicrhau gwell cychwyn mewn bywyd. Mae Canolfannau Plant ynglyn ag adeiladu ar yr hyn sy’n dda yn barod a’i wneud yn well byth drwy sicrhau fod yr holl asiantaethau a’r sefydliadau sy’n ymglymedig â dargludo gwasanaethau, yn gweithio mewn ffordd gydlynol ac yn cadw anghenion y plentyn yn ganolog bob amser. |
Clefyd Siwgr |
Anhwylder a achosir gan fethiant y corff i reoli faint o siwgr sydd yn y gwaed. Os na chaiff ei drin, gall clefyd siwgr wneud niwed difrifol i organau’r corff. |
|
Fe’i penodir i annog staff i fod yn fwy actif, er mwyn arwain at weithlu iach |
Cyflyrau Cyhyroysgerbydol |
Cyflyrau sy’n effeithio ar yr esgyrn, y cyhyrau, gewynnau a thenynnau, scoliosis er enghraifft |
Cyfrif Cysgu Allan |
Ymgymerir â chyfrif cysgu allan gan awdurdodau lleol mewn partneriaeth ag asiantaethau digartref lleol. Mae cyfrif strydoedd yn darparu darlun defnyddiol o nifer y bobl sy’n cysgu allan mewn ardal ddaearyddol benodol ar noson sengl, ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ynglyn â’r rhesymau pam eu bod yn gorfod cysgu allan. |
Cymunedau’n Gyntaf |
Mae Cymunedau’n Gyntaf yn rhoi cyfleoedd i bobl sy’n byw mewn ardaloedd a ystyrir i fod yn ddifreintiedig, a’r asiantaethau sy’n dargludo gwasanaethau i’r cymunedau hynny, i archwilio realiti tlodi ac i ddysgu a gweithio ynghyd i ddelio â hynny. |
Cynhadledd Asesu Risg Aml-Asiant (MARAC) |
Amcanion MARAC ar gyfer achosion camdriniaeth ddomestig sy’n risg uchel yw:
- Rhannu gwybodaeth i gynyddu diogelwch, iechyd a lles dioddefwyr, oedolion a’u plant:
- I benderfynu a yw’r cyflawnwr yn risg sylweddol i unrhyw unigolyn arbennig neu i’r gymuned gyffredinol:
- I wneud a gweithredu cynllun rheoli risg sy’n darparu cefnogaeth broffesiynol i bawb sydd mewn perygl ac sy’n lleihau’r perygl o niwed;
- I leihau erledigaeth ailadroddus;
- I wella atebolrwydd asiantaeth;
- I wella cefnogaeth i staff sy’n ymglymedig ag achosion camdriniaeth ddomestig risg uchel
|
Cynhwysiad Cymdeithasol |
Pan fydd unigolyn yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw un o’r gweithgareddau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol allweddol, yn y gymdeithas y maent yn byw ynddi. |
Cynllun Datblygu Gofal Canolraddol |
Yn Sir Ddinbych mae gwasanaethau newydd yn cael eu creu a gwasanaethau presennol yn cael eu newid i ddod dan ymbarél gofal canolraddol. Bydd y gwasanaethau hyn yn cynorthwyo i symud darpariaeth gwasanaeth i mewn i’r gymuned, yn nes at gartref, ac i ffwrdd oddi wrth ofal gwely, lle bo hynny’n bosib. |
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) |
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a fydd yn disodli’r Cynllun Datblygu Unedol mabwysiedig presennol.
Cyngor Sir Ddinbych yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer Sir Ddinbych gyfan, ac mae felly’n gyfrifol am faterion y Cynllun Datblygu a Rheolaeth Datblygu. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi a pharhau i ddiweddaru’r Cynllun Datblygu ar gyfer ei ardal.
Mae’r system gynllunio’n rheoleiddio datblygiad a defnydd tir er budd y cyhoedd. Fe ddylai gymodi anghenion datblygiad a chadwraeth, a sicrhau economi, effeithlonrwydd ac amwynder mewn defnydd tir, a diogelu adnoddau naturiol felly’n cyfrannu tuag at ddatblygiad cynaliadwy. |
|
Yn gweithredu i barhau gofal iechyd y GIG |
Cynllun ‘Handyperson’ |
Yn ymgymryd â thasgau bychan yn ac o gwmpas cartrefi pobl hyn |
Cynllun ‘Houseproud’ |
Mae ‘Houseproud’ yn helpu perchnogion tai neu brydleswyr sy’n 60 neu hyn ac sy’n anabl neu sydd â pherson anabl yn byw efo nhw - i wneud ac ariannu gwaith mawr ar eu cartrefi.
Gall cymorth dan y cynllun ‘Houseproud’ amrywio o roi help ymarferol a chyngor ar drwsiadau, gwelliannau ac addasiadau, i helpu gyda chynllunio’r gwaith, ffynonellu crefftwyr dibynadwy ac archwilio’r gwaith gorffenedig, i roi cyngor ar a darparu cyllid, yn cynnwys benthyciadau rhyddhau ecwiti di-risg. Gall y gwaith a gaiff ei gynnwys dan y cynllun Houseproud fod yn unrhyw beth o ystafell ymolchi newydd i do newydd, o osod gwres canolog i osod lifft grisiau. |
Cynllun Partneriaeth Tirwedd Grug a Bryngaerau |
Mae Cynllun Partneriaeth Tirwedd Grug a Bryngaerau’n gobeithio gwella dealltwriaeth, cynyddu ymwybyddiaeth a chyrchiad, a dylanwadu ar reolaeth treftadaeth hanesyddol a naturiol arbennig Bryniau Clwyd a Mynydd yn y dyfodol.
Y nod yw darparu dull strategaeth i adfer a chynnal treftadaeth hanesyddol a naturiol yr ucheldir fel tirwedd gynaliadwy. Fe wneir hyn drwy gadwraeth ac adfer treftadaeth y bryngaerau a’r rhostir grugog; ailgysylltu pobl â threftadaeth y bryngaerau a’r rhostir grugog a chynyddu eu mwynhad ohonynt, drwy addysg, dehongli, digwyddiadau a mentrau datblygu cynulleidfa; cynyddu ein dealltwriaeth o dreftadaeth y bryngaerau a’r rhostir a fydd yn darparu sail ar gyfer rheolaeth, adferiad a phrosiectau dehongli yn y dyfodol. |
Cynllun peilot Bws Nos |
Gwasanaeth cludiant rhad drws i ddrws gyda’r nos a beilotwyd ac a ariennir gan Strategaeth Pobl Hyn Sir Ddinbych, ac fe’i rhedir gan wirfoddolwyr sydd wedi eu clirio gan y Swyddfa Gofnodion Troseddau ac wedi eu hyffordd i safon uchel. |
Cynllun Trwyddedau Hamdden Y Rhyl |
Cyrchiad am ddim a chymorthdaledig i hamdden yn Y Rhyl wedi ei weinyddu drwy Gymdeithasau Preswylwyr yn cynnwys nofio am ddim yng Nghanolfan Hamdden Y Rhyl, defnydd o gyfleusterau Gwasanaethau Hamdden, a dau am un yng nghyfleusterau Hamdden Clwyd. |
Cynllun Ysgolion Iach |
Menter tymor hir sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd a chyflawniadau plant a phobl ifanc. Mae’n cefnogi’r cysylltiadau rhwng iechyd, ymddygiad a chyflawniadau; mae ynglyn â chreu plant a phobl ifanc sy’n iach ac yn hapus, ac sy’n gwneud yn well mewn dysgu ac mewn bywyd. |
DECS (Cyflenwi Gwasanaethau Gofal Brys) |
Mae’n gosod cyd-destun a chyfeiriad ar gyfer dargludiad gwasanaethau gofal sydd heb eu trefnu yng Nghymru, yn y dyfodol |
Deddf Galluedd Meddyliol |
Yn darparu fframwaith statudol i alluogi ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed nad ydynt yn gallu penderfynu drostynt eu hunain. Mae’n egluro pwy sy’n gallu gwneud penderfyniadau, ym mha sefyllfaoedd, a sut y dylent wneud hyn. Mae’n galluogi pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer amser pan allent golli galluedd. |
Eiriolwr Galluedd Meddyliol |
Helpu pobl sy’n agored i niwed sydd heb alluedd ac sy’n wynebu penderfyniadau pwysig a wneir gan y GIG a’r Awdurdod Lleol am driniaeth feddygol ddifrifol a newid preswylfa - er enghraifft, symud i ysbyty neu gartref gofal. |
Fferm Wynt Alltraeth North Hoyle
|
North Hoyle yw fferm wynt alltraeth fawr gyntaf y DI ac mae’n cynrychioli carreg filltir fawr yn ymdrech y DU tuag at ffynonellau pwer glanach |
‘Footloose’: Cerdded y Ffordd i Iechyd |
Menter a ddyluniwyd i wella iechyd a ffitrwydd drwy ymuno â chyfres o deithiau cerdded yn ardaloedd Y Rhyl a Dinbych, wedi ei drefnu gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. |
Fframwaith Asesu Cyffredin |
Mae’n hwyluso cyfleoedd ymyrraeth gynnar ac yn lleiafu gwaethygiad i gyfeiriad y Gwasanaethau Cymdeithasol. |
Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol |
Mae fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol yn strategaethau tymor hir ar gyfer gwella meysydd gofal arbennig. Maent yn gosod safonau cenedlaethol, yn nodi ymyriadau allweddol ac yn sefydlu graddfeydd amser cytûn i’w gweithredu |
Fframwaith Gwasanaethau Cymunedol |
Mae’n ofynnol ar Fwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych mewn partneriaeth â’r Cyhoedd, Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych a’r Sector Wirfoddol, gynhyrchu cynllun tymor hir ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a elwir yn Fframwaith Gwasanaethau Cymunedol. Bydd y Fframwaith yn darparu platfform ar gyfer cynnydd cadarn a sylweddol er mwyn dargludo gwasanaethau cynaliadwy, o ansawdd, sy’n ddiogel ac yn hygyrch ar gyfer pobl Sir Ddinbych. |
Gofal Canolraddol |
Gofal Canolraddol yw ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n darparu pobl gyda’r cyfle i wella a dargludo therapi neu driniaeth actif.
Nod gwasanaethau gofal canolraddol yw atal derbyniadau i ysbyty neu dderbyniad i gartref gofal pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny, a hyrwyddo a gwella annibyniaeth yr unigolyn pan fydd yna botensial a pharodrwydd.
Ar un pen i’r raddfa, gall gwasanaethau gofal canolraddol ymateb i sefyllfaoedd brys neu ddifrifol a all fod angen asesiad ar unwaith gan berson proffesiynol medrus a chyrchiad i wasanaethau arbenigol a ddarperir gan Bobl Broffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ym mhen arall y raddfa gall grwpiau’r sector wirfoddol ddarparu cyngor a chefnogaeth i atal unigrwydd cymdeithasol neu gyflyrau tai gwael, a allai gael effaith niweidiol ar iechyd person. |
|
Gofalwyr yw’r bobl sy’n gofalu am aelodau’r teulu neu ffrindiau sydd angen gofal, help neu gefnogaeth. Gall gofalwyr fod yn oedolion sy’n gofalu am oedolion eraill, rhieni sy’n gofalu am blant sy’n sâl neu’n anabl, neu ofalwyr ifanc sy’n gofalu am aelod arall o’r teulu. |
Grant Amcan Un Ewrop |
Mae Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn bod i helpu ardaloedd yn Ewrop sydd, am ba reswm bynnag, yn dioddef anawsterau. Bwriedir i’r cronfeydd gael eu defnyddio i helpu i noddi prosiectau a fydd yn delio ag anghenion lleol yn uniongyrchol. Yn y Cronfeydd Strwythurol hyn mae yna 3 o Amcanion. Amcan Un yw hyrwyddo datblygiad ac addasiad rhanbarthau y mae eu datblygiad yn rhy araf. |
Grant ar gyfer Cydweithio |
Mae Cynyddu Hyblygrwydd yn annog cydweithio rhwng iechyd a llywodraeth leol a hefyd yn caniatáu i bartneriaid ‘Gronni Cyllid’ a throsglwyddo swyddogaethau a chyfrifoldebau drwy ‘Gomisiynu Arweiniol’ a ‘Darpariaeth Integredig’.
Fe ddyluniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r Grant ar gyfer Cydweithio i ddarparu cefnogaeth i awdurdodau lleol wrth sefydlu partneriaethau gydag iechyd.
Gellir defnyddio’r Grant i ddatblygu gwasanaethau ar y cyd ar gyfer grwpiau cleientiaid, yn cynnwys pobl oedrannus, plant, gofalwyr a phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, anabledd dysgu ac anabledd corfforol/synhwyraidd. |
Gwaeledd Parhaus |
Gwaeledd tymor hir neu barhaol nad oes gwellhad iddo, sy’n arwain yn aml at ryw fath o anabledd ac sydd efallai’n golygu fod y person yn gorfod cael help gyda gwahanol weithgareddau |
Gwasanaeth Ffeindio Swydd |
Mae’r Gwasanaeth Ffeindio Swydd yn gweithredu fel cyswllt annibynnol rhwng eu cwmnïau cleient a’r ymgeiswyr y maent yn eu recriwtio ar gyfer swydd. |
Gwasanaeth Ymateb Argyfwng Gofal Canolraddol |
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl sydd wedi profi newid yn eu lles corfforol neu feddyliol neu newid dros-dro yn eu sefyllfa gymdeithasol sy’n ei gwneud yn anodd iddynt fwrw ymlaen heb gyfnod byr o ymyriad gan nyrs, efallai, neu ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol neu weithiwr cymdeithasol. Caiff y tîm ei gefnogi gan gynorthwywyr a gweithwyr cynnal ar sail gyfyngedig, tymor byr (o 1-2 ddiwrnod hyd at bythefnos) i leihau/ddelio â’r angen argyfyngus ac i leihau risg uniongyrchol. Wedi i’r elfen enbyd gael ei datrys, yna gellir cyfeirio’r unigolyn at wasanaethau eraill fel sy’n briodol. |
Gwasanaethau Hawliau Lles |
Mae gwasanaethau hawliau lles yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth, cyngor neu help am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, pensiynau a chredydau treth; hawliau tai; hawliau cyflogaeth; dyled bersonol; arbed ynni; a chysylltu â gwasanaethau cymdeithasol perthnasol fel cymorth cartref |
Gwasanaethau Iechyd Meddwl |
Gwasanaethau arbenigol sydd wedi eu dylunio’n arbennig i daclo problemau iechyd meddwl a hyrwyddo iechyd meddwl. |
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) |
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn neu berson ifanc sydd â phroblemau seicolegol, emosiynol neu ymddygiad. Gallant gynnig help i deuluoedd, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr maeth, a mabwysiadwyr. Maent yn cyflogi gweithwyr arbenigol yn nhîm CAMHS ac yn cyfeirio plant a theuluoedd sydd angen help fel hyn. |
Gwobr BTEC |
Mae Cyngor Addysg Busnes a Thechnegydd (BTEC) yn gyfradd â chymwysterau eraill fel TGAU a’r Lefel A ond gwahaniaeth penodol yw eu bod yn tueddu i gael eu seilio ar waith ymarferol neu waith cwrs yn hytrach nag arholiadau sydd wedi eu hamseru. |
Gwobr Safon Iechyd Corfforaethol |
Mae Safon Iechyd Corfforaethol yn farc o ansawdd ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle. Mae’r Safon Iechyd Corfforaethol yn siwrne barhaus o ymarfer da a gwelliant, a gellir ei ddefnyddio fel teclyn i gefnogi datblygiad polisïau sy’n hyrwyddo iechyd a lles gweithwyr.
Gwobrwyir Safon Iechyd Corfforaethol ar bedair lefel wahanol – Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm. Mae’r wobr yn cychwyn ar efydd sy’n cydnabod sefydliadau sydd â gweithgareddau a pholisïau yn eu lle sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn delio â risgiau allweddol i iechyd gweithwyr. Mae’r wobr yn cynyddu i lefel platinwm sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cyflogwyr teilwng sy’n arddangos rhagoriaeth busnes, sydd ystyried eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn llwyr. |
HIV |
Human Immunodeficiency Virus (HIV) yw’r firws sy’n achosi AIDS. Fe’i trosglwyddir o un person i’r llall drwy waed sydd wedi ei heintio a hylifau’r corff. Mae’n ymosod ar y system imiwnedd dynol ac yn gwneud y corff yn agored i ystod o heintiau a chanser. |
Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth Hunanladdiad Cymhwysol (ASIST) |
Mae hyfforddiant ASIST wedi ei ddatblygu a’i wella’n barhaus gan "Livingworks Inc." dros yr ugain mlynedd diwethaf, er mwyn helpu pobl gyffredin i deimlo’n fwy cyfforddus, hyderus a chymwys, i adnabod person sydd mewn perygl o hunanladdiad neu i ddarparu “cymorth cyntaf” hunanladdiad a fydd yn achub eu bywyd. Gall ASIST ddysgu unrhyw un i gael y dewrder i adnabod person sydd â meddyliau a bwriadau am hunanladdiad ac i ymyrryd. |
Integreiddiad Gwasanaethau Cyfarpar Cymunedol (CESI) |
Darparu cyfarpar sy’n helpu i gyfarfod ag anghenion pobl ac yn helpu i leddfu risg a hyrwyddo annibyniaeth |
Keysafe |
Bocs sy’n gallu gwrthsefyll y tywydd yw Keysafe wedi ei ddylunio i gadw allweddi’n ddiogel. |
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig |
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yw sefydliadau tai annibynnol sydd wedi eu cofrestru gyda’r Gorfforaeth Dai dan Ddeddf Tai 1996. Maent yn gyrff di-broffid sy’n cael eu rhedeg gan bwyllgorau gwirfoddol sy’n darparu llety ar rent ar gost fforddiadwy ar gyfer y rheiny sydd angen cartref. Mae rhai’n darparu cartrefi i’w gwerthu drwy gynlluniau arbennig i helpu pobl ar incwm isel i ddod yn berchnogion tai. |
Maethiad mewn Prosiectau Clybiau Ieuenctid |
Yn targedu pobl ifanc mewn cydweithrediad â Chlwb Pêl Droed Y Rhyl sydd â’u chwaraewyr yn awr yn ddelfryd ymddwyn ffitrwydd i bobl ifanc.
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn ymdrin â datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc, eu haddysg, eu hiechyd, rhoi grym iddynt a’u cyrchiad i wybodaeth ac annibyniaeth ac adnoddau a fydd yn eu galluogi i symud o ddibyniaeth i annibyniaeth.
Mae’r Gwasanaeth yn gweithio yn unol â strategaeth y cwricwlwm i Gymru, agenda Ymestyn Hawl a fframwaith sicrwydd ansawdd ESTYN er mwyn darparu’r gwasanaeth mwyaf cynhwysfawr ac effeithiol i gyfarfod ag anghenion Pobl Ifanc Sir Ddinbych |
Menter Cartrefi Diogelach |
Wedi ei ariannu gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r Swyddfa Gartref, mae Cartrefi Diogelach yn wasanaeth newydd ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth ddomestig. Ei nod yw lleihau lefelau camdriniaeth ddomestig a gostwng ofn erledigaeth ailadroddus drwy gynnig gwasanaeth cydymdeimladol a chyfrinachol. Mae’r fenter yn barod i ddarparu cloeon drws am ddim, cloeon ffenestri, larymau ymosodiad personol a dyfeisiadau diogelwch eraill, yn ogystal â chyngor a gwybodaeth ar atal trosedd. |
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol |
Mae’n rhaid i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wneud asesiad blynyddol o drosedd, anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad arall sy’n effeithio er gwaeth ar yr amgylchedd, gweithio gyda phartneriaid (Yr Heddlu, Awdurdod yr Heddlu, Bwrdd Tân ac Iechyd Lleol).
Dargludir Diogelwch Cymunedol yn Sir Ddinbych drwy bedair prif gyfundrefn cyfarfod: Camddefnyddio Sylweddau, Trais Domestig, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Grwp Gweithredu ar y Cyd (Trosedd ac ofn Trosedd). Caiff troseddu’r ifanc ei daclo gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid - gwasanaeth a gefnogir gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych. |
Pentre Peryglon |
Mae Pentre Peryglon yn ganolfan bwrpasol sy’n darparu addysg diogelwch ymarferol yn benodol i blant a phobl ifanc. |
Problemau Iechyd Meddwl |
Mae problemau iechyd meddwl yn cwmpasu ystod eang o faterion, o gyfyngder i iselder a cholli cysylltiad â realiti, ac fe all amharu ar y gallu i ddygymod o ddydd i ddydd |
Proffil Demograffig |
Ystadegyn cymdeithasol o boblogaeth ddynol, fel nifer y genedigaethau neu farwolaethau |
Prosiect Dim Galw Diwahoddiad |
Mae’r prosiect i atal dynion ffug sy’n gwerthu i bobl sy’n agored i niwed o ddrws i ddrws. Mae’r prosiect yn un sydd ar y cyd â’r Bartneriaeth Gymunedol, yr Heddlu, STARS a Safonau Masnach. |
Prosiect Integreiddio Anabledd |
I sicrhau dargludo’r gwasanaethau gorau posib i bobl gydag anabledd dysgu ar draws pob grwp oedran drwy integreiddiad agos o wasanaethau ar draws gwasanaethau Plant ac Oedolion |
Prosiect Keyring |
Rhwydwaith sy’n darparu cefnogaeth i oedolion sy’n agored i niwed yn Sir Ddinbych ac mae rhai ohonynt ag anabledd dysgu. |
Rheumatoid Arthritis |
Salwch lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar gymalau, gan achosi chwydd poeth poenus a chamffurfiad. |
Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru (NWREN) |
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru’n bod i herio gwahaniaethu hiliol yn ei holl ffurfiau, fel y’i profir gan bobl Dduon a Lleiafrifol Ethnig; i hyrwyddo harmoni hiliol rhwng unigolion a chymunedau yng Ngogledd Cymru; ac i weithio tuag at gydraddoldeb cyfleoedd. |
Sesiynau ‘Coginio a Bwyta’ |
Roedd gweithdai ‘Coginio a Bwyta’ mewn Clybiau Ieuenctid a ddatblygwyd gan weithiwr sgiliau Maethiad a Choginio yn amcanu newid ymddygiad o ran arferion bwyd. Rhoddir cefnogaeth i bobl ifanc i ddysgu sgiliau coginio newydd, ac i roi hyder iddyn nhw i baratoi prydau syml iddyn nhw eu hunain sydd wedi eu cydbwyso’n dda ar gyllideb. Bydd y gweithdai’n arwain at Achrediad RhyCA (Rhwydwaith y Coleg Agored) mewn Maethiad a Bwyta’n Iach. Bydd pobl ifanc yn gallu hyfforddi pobl ifanc mewn clybiau ieuenctid eraill. |
Sialens Iechyd Sir Ddinbych |
Mae Sialens Iechyd Cymru’n darparu ffocws cenedlaethol newydd a chynhwysol i sicrhau gwell perchnogaeth, ymroddiad a gweithrediad am ‘iechyd gwell’ fel rhan o ymdrech gydlynol a pharhaus i wella lefelau iechyd yng Nghymru ac i gyflawni’r targedau cenedlaethol a osodwyd ar gyfer 2012.
Mae Sialens Iechyd Sir Ddinbych yn sialens i chi fel unigolyn i wneud yr hyn a allwch i wella’ch iechyd eich hun ac iechyd eich teulu, ac i fusnesau lleol hyrwyddo a gwella iechyd eu gweithwyr a’u cwsmeriaid |
Strategaeth Cefnogi Pobl |
Nod y ddogfen hon yw amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad y newid i wasanaethau a ariennir gan Gefnogi Pobl yn Sir Ddinbych dros y tair blynedd nesaf.
Mae cyfeiriad y strategaeth tuag at ‘ddull comisiynu strategol’ tuag at gynllunio ac ariannu gwasanaethau tai a chefnogaeth tenantiaeth yn y dyfodol. Golyga hyn sicrhau fod darpariaeth gwasanaeth yn cael ei nodi fel blaenoriaeth, yn cynhyrchu canlyniadau positif a bod ganddo gysylltiadau sydd wedi eu diffinio’n glir i gynlluniau strategol cyffredinol allweddol a Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol |
Strategaeth Dinasoedd Y Rhyl |
Mae’n dod ag ystod o sefydliadau partner at ei gilydd er mwyn taclo diweithdra o fewn Y Rhyl. Mae’n ffurfio rhan o raglen ‘Strategaeth Dinas’ Llywodraeth y DU, sy’n amcanu i ddod â graddfeydd diweithdra i lawr o fewn ardaloedd targed. |
|
Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sut y dylid cefnogi Gofalwyr yn y Sir a sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu gwella a’u datblygu i gyfarfod â’u hanghenion. |
|
Mae’r strategaeth yn ceisio darparu persbectif amrediad pell ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gomisiynwyd ar y cyd i bobl hyn i sicrhau fod pobl hyn sy’n byw yn Sir Ddinbych yn derbyn gwasanaethau o ansawdd sy’n cyfarfod â’u hanghenion ac sy’n dargludo canlyniadau sy’n deg, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
Y weledigaeth sy’n waelod i’r Strategaeth yw hyrwyddo delwedd bositif a grymus o heneiddio a symudiad tuag at fodelau o iechyd a gofal cymdeithasol sy’n delio ag anghenion ‘cyflawn’ pob unigolyn. |
Symud a Thrin |
Cyrsiau Symud a Thrin a ddyluniwyd ar gyfer pob gofalwr sy’n gorfod codi/trin pobl, eu dysgu sut i symud pobl yn ddiogel, fel bod risgiau symud a thrin yn cael eu lleihau i’r lefel isaf. Mae symud a thrin yn ymgorffori asesiad risg, egwyddorion trin pobl mewn amgylchedd gofalu, cynorthwyo symudedd, cynorthwyo pobl mewn cadeiriau a gwelyau, a’r defnydd o gymhorthion trin. |
|
Taliadau Uniongyrchol yw taliadau arian parod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i’ch helpu i dalu am y gwasanaethau sydd eu hangen ar y plentyn yn ôl asesiad. Gall rhieni a gofalwyr benderfynu sut y cyfarfyddir ag anghenion ariannol y plentyn, gan bwy ac ar adeg sy’n siwtio anghenion y plentyn |
Teleofal |
Mae Teleofal yn disgrifio unrhyw wasanaeth sy’n dod ag iechyd a gofal cymdeithasol yn uniongyrchol i ddefnyddiwr yn eu cartref, wedi ei gefnogi gan dechnoleg gwybodaeth a chysylltiadau. Mae Teleofal yn cwmpasu ystod eang o gyfarpar (datguddwyr, monitorau, larymau, larymau gwddf etc) a gwasanaethau (asesiadau, gosod, monitro, canolfannau galw ac ymateb). |
Tîm Cyswllt Cyntaf |
Maent yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i unrhyw unigolyn sydd angen cefnogaeth, sydd â phryderon am amddiffyn plant neu amddiffyn oedolion agored i niwed, cyngor a gwybodaeth i ofalwyr, ac ymatebion i bob ymholiad cyffredinol arall am wasanaethau cymdeithasol. |
Tîm Diogelu Iechyd |
Darperir gwasanaethau gan Ymgynghorwyr Cynghori Clefydau Trosglwyddadwy a’u timau. Maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau’n cynnwys:
- Cyngor a chefnogaeth ar faterion rheoli clefydau cymunedol
- Rheolaeth clefydau trosglwyddadwy, yn cynnwys archwilio achosion sengl a chychwyniadau
- Cyngor a chefnogaeth ar gyfer rheolaeth heintiad mewn adeiladau gofal iechyd, cartrefi preswyl a chyfleusterau nyrsio cymunedol
- Swyddogaeth Swyddog Priodol ar gyfer iechyd porthladd ac archwiliadau meddygol dan Ddeddf Mewnfudo, 1971
- Cydlyniad strategol ar faterion diogelu’r cyhoedd
- Cydlyniad strategol o raglenni brechu ac imiwneiddio
- Gwaith ar HIV ac iechyd rhywiol
- Archwilio clystyrau o salwch o darddiad anhysbys
- Cyfraniadau i ddatblygiad polisi
- Mewnbwn iechyd cyhoeddus i achosion o ryddhad bwriadol yn cynnwys asiantau cemegol, biolegol a radiolegol.
|
Trawsnewid |
Y weithred o symud o un cyflwr neu le i’r nesaf. |
Y Tîm Cefnogi Pobl |
Yn darparu ystod eang o gefnogaeth sy’n seiliedig ar dai ac uchafu gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed |