
Rhagair
Rwy’n falch o gyflwyno Sir Ddinbych Iach i chi ein hail Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Mae Sir Ddinbych Iach yn adeiladu ar y gwaith gwych a ddechreuwyd yn ein Strategaeth gyntaf a gynhyrchwyd ym 2005. Ein nod yn awr yw adeiladu ar y gwaith da i barhau i wella iechyd pobl Sir Ddinbych.
Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar ein Hiechyd a Lles dyma pam ei bod hi’n bwysig parhau i weithio mewn partneriaeth hefo nifer o fudiadau. Yn Sir Ddinbych mae mudiadau lleol wedi gweithio'n dda i ymateb i anghenion lleol ac rydyn yn parhau i wella ar hyn.
Mae Sir Ddinbych Iach yn caniatáu i bobl ei ddefnyddio’n hawdd. Mae’r Strategaeth yn dangos ein anghenion, yn edrych beth a wnaed hyd yn hyn a beth a wnawn yn y dyfodol.
Mae Sir Ddinbych Iach yn ddogfen sy’n parhau i newid a thyfu. Caiff y Strategaeth ei arolygu’n rheolaidd gan y Bartneriaeth trwy grwp Rheoli Perfformiad Asiantaethau.
Sally Baxter
Prif Weithredwr, Bwrdd Lechyd Lleol Sir Ddynbych
Cllr. Pauline Dobb
Cyngor Sir Ddinbych
|