
Mae 'Sir Ddinbych Iach' yn adeiladu ar y gwaith mawr a gychwynnwyd yn y strategaeth gyntaf yn delio â 2005-2008. Mae mwy o bwyslais yn cael ei roddi nawr ar waith partneriaeth, cyd-gomisiynu a chydweithredu i gyflwyno gwell gwasanaethau ac i gefnogi unigolion a chymunedau wrth wella eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae hyn yn cyd-fynd â'r Fframwaith Gwasanaethau Cymunedol, sy'n delio â dod â gwasanaethau i bobl yn eu cartrefi eu hunain neu'n agos at eu cartrefi mewn ystod o leoliadau cymunedol.
Bydd ein hadroddiad llwyddiannus 'Gwneud Gwahaniaeth' yn gadael i chi wybod pa wahaniaeth y mae'r strategaeth gyntaf wedi ei wneud.
Sut ydym yn penderfynu beth sy'n bwysig yn Sir Ddinbych?
Mae penderfynu ar y pethau pwysig yn 2008-2011 yn golygu pennu blaenoriaethau. Gyda'ch help chi, rydym wedi adnabod wyth 'Thema' blaenoriaeth.
Mae'r 'Themâu' hyn yn ein heffeithio ni i gyd, gan gynnwys plant, pobl ifanc a phobl hŷn, rhai gydag anabledd dysgu, anghenion iechyd meddwl, namau synhwyrol a chorfforol; rhai a effeithir gan dlodi neu allgau cymdeithasol, a gofalwyr.
- Lleihau Tlodi / Gwella Cynhwysiant Cymdeithasol
- Ein Hamgylchfyd
- Ffordd o Fyw sy'n Bositif
- Ymyrraeth Gynnar a Chefnogaeth mewn Argyfwng
- Anghenion Newidiol / Gwasanaethau Ymatebol
- Anghenion mwy Hirdymor
- Amddiffyn a Diogelu
- Y Gwasanaethau Priodol yn y Lle Priodol
Mae'r 'Themâu' blaenoriaeth hyn, sy'n gorgyffwrdd, yn eang oherwydd bod ein hiechyd, gofal cymdeithasol a'n lles yn cael eu heffeithio gan nifer o ddylanwadau, megis ble rydym yn byw, yn gweithio a dysgu; ein grŵp ethnig a'n hunaniaeth; ein perthynas â'n teulu a'n cyfeillion a sut medrwn gyrchu gwasanaethau a chyfleusterau.
Daethom i benderfyniad ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig yn Sir Ddinbych trwy ddilyn dau lwybr:
1.Cyhoeddi dogfen Anghenion Asesu sy'n casglu at ei gilydd lawer o wybodaeth am ein bywydau a'n hamgylchiadau. Roedd hon yn nodi lle rydym yn byw, sut rydym yn byw a pha mor iach ydym. Roedd hefyd yn crybwyll yr hyn sydd wedi ei wneud eisoes a beth sy'n cael ei wneud i wella ein bywydau a lleihau anghydraddoldeb, ac o'r ddogfen hon roeddem yn medru gweld beth a oedd ar ôl i'w wneud.
2. Cynnwys llawer ohonoch yn y trafodaethau a gofyn a oeddech yn cytuno gyda'n barn ni ar beth oedd angen ei wneud i wella ein bywydau a'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae 'Sir Ddinbych Iach' yn falch o gael sylfaen gwerthfawr sy'n dibynnu ar adeiladu a chynnal:
- Cymunedau diogel ac ymddiriedaeth
- Rhaglenni sydd wedi eu dylunio i hybu eich iechyd, annibyniaeth a'ch galluogi i fwynhau bywyd
- Ein cyfranogiad gweithgar o ran creu bywydau a chymunedau gwell
- Cymryd penderfyniadau personol ac atebolrwydd
- Lles economaidd
- Gweithlu galluog, hapus ac iach, yn cael y mwyaf allan o dechnoleg ac adnoddau eraill, ac yn ymwybodol o bwysigrwydd darparu gwasanaethau mewn dulliau sy'n ymateb i grŵp ethnig, rhyw a gwahaniaethau eraill.
Nid yw 'Sir Ddinbych Iach' yn delio'n unig â gwasanaethau rydym eu hangen pan fyddwn yn sâl, ond hefyd â'r hyn y medrwn ei wneud i'n cadw'n iach.
Mae pob un o'r 8 thema wedi eu rhannu'n 7 rhan:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ystyr y Thema |
|
Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod? |
|
Beth rydym wedi ei wneud hyd yma? |
|
Beth ydym yn mynd i'w wneud yn y 3 blynedd nesaf a sut all hyn eich effeithio chi? |
|
Sut all hyn eich effeithio chi? |
|
Beth all hyn ei olygu i deulu Ceri? |
|
Cysylltiadau Defnyddiol |
|