
Mae strategaeth newydd
Sir Ddinbych Iach yn amlinellu cynlluniau a fydd yn help i wella iechyd a lles pobl Sir Ddinbych. Gellir llwytho’r strategaeth i lawr drwy glicio ar y ddelwedd isod neu fe allwch bori drwy dudalennau’r wefan hon a chael gwybodaeth fanylach am yr hyn y bwriadwn ei wneud a sut yr ydym yn dod ymlaen.

Cliciwch yma neu ar y ddelwedd uchod i lawrlwytho fersiwn PDF y strategaeth.
Mae llawer o wybodaeth wedi mynd i ddatblygu 'Sir Ddinbych Iach' ac mae hyd yn oed mwy o wybodaeth yn cefnogi'r gwaith o weithredu a monitro'r strategaeth hon.
Er enghraifft, mae gan bob amcan ystod o ddogfennau a chynlluniau gweithredu cefnogol sy'n esbonio pam, sut, pryd a beth rydym yn ei wneud.
Gellir canfod gwybodaeth fanwl trwy glicio ar y linc, er enghraifft Fframwaith Gwasanaethau Cymunedol, fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i'r manylion.
Neu ffoniwch 01824 708363 a gofynnwch am gael postio gwybodaeth atoch.
Roeddem eisiau osgoi eich gorlwytho gyda gwybodaeth ddiangen, ond rydym eisiau i chi wybod bod y wybodaeth ar gael i'r sawl ohonoch a hoffai fanylion pellach.
Drwy roi'r wybodaeth
ar gael ar gais ac yma ar-lein gallwn helpu i leihau gwastraff papur a sicrhau fod y wybodaeth sydd ar gael yn cael ei diweddaru cyn gynted ag sydd bosib.
Mae gwybodaeth bellach ar gael i'w lawrlwytho ym Mhecyn Gwybodaeth (PiN PaC) Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
Mae'r Strategaeth ar gael mewn print bras neu ar ffurf audio os gofynnir.
Cysylltwch
â’r Tîm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar 01824-708363 neu ar hscwb.admin@denbighshire.gov.uk
|