Sir Ddinbych Iach
"" English
 
CartrefStrategaeth 2008-2011
""

Lleihau Tlodi a Gewlla Cynhwysiant Cymdeithasol

Beth mae hyn yn ei olygu?

Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod?

Beth rydym wedi ei wneud hyd yma?
Beth rydym yn mynd i'w wneud yn y tair blynedd nesaf?

Sut all hyn eich effeithio chi?

Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri?
Cysylltiadau Defnyddiol
"" Beth mae hyn yn ei olygu?

Gan Leihau Tlodi a Gwella Cynhwysiant Cymdeithasol rydym yn golygu y byddwn yn gwneud popeth a fedrwn i leihau tlodi. Mae'n golygu y byddwn yn sicrhau bod pobl sy'n ddifreintiedig yn cael cyfle i chwarae rhan mewn gweithgareddau a gymerir yn ganiataol gan y rhan fwyaf ohonom. Mae gan holl drigolion Sir Ddinbych yr hawl i'r canlynol: incwm digonol i ddiwallu anghenion sylfaenol (megis bwyd, cynhesrwydd a gofal iechyd); mynediad cyfartal i bob un o'n gwasanaethau megis addysg a gwasanaethau hamdden; cyfle cyfartal i gyflogaeth; chwarae rhan yn eu cymuned a lleisio barn mewn penderfyniadau ar sut ddyrennir adnoddau a gwasanaethau lleol.

Rydym yn cydnabod bod nifer o bobl yn Sir Ddinbych heb yr hawliau hyn a bod rhai grwpiau a chymunedau yn cael eu heffeithio fwy gan dlodi nag eraill, er enghraifft mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf; ac os nad yw'r hawliau hyn ganddynt, mae'n golygu nad ydynt yn cael eu trin yn gyfartal neu maent yn ymwneud llai â democratiaeth leol. Mae'n cynnwys pobl sydd, efallai, yn bellennig yn ddaearyddol, mewn cymunedau gwledig, ac nad ydynt yn byw mewn cymdogaethau penodol. Mae hefyd yn golygu pobl sydd wedi eu hallgau'n gymdeithasol - methu â chael mynediad i dai o ansawdd da, addysg, cludiant a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. Mae'n bwysig ein bod yn Sir Ddinbych y dod ag ynni newydd i ymdrechion adfywio er mwyn gweithio gyda phobl ym mhen draw'r sbectrwm anghydraddoldeb ac adfywio ein cymunedau gwledig a threfol.

"" Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod?
""
Y prif ffactor sylfaenol sy'n esbonio gwahaniaethau a welir mewn statws iechyd rhwng unigolion yw anfantais gymdeithasol a thlodi (Mudiad Iechyd y Byd - WHO)
""
Gall anfantais gynnwys cael adnoddau teuluol prin, addysg wael, cyflogaeth ansicr a byw mewn tŷ ansawdd gwael
""
Gall amgylchiadau economaidd-gymdeithasol wael arwain at bryder, ansicrwydd, hunanhyder isel, gwaharddiad cymdeithasol a diffyg rheolaeth dros waith a bywyd y cartref
""
Gall hefyd gynyddu ymddygiad sy'n golygu cymryd risg, megis smygu, camddefnyddio alcohol, cymryd cyffuriau a rhyw anniogel. Mae tlodi hefyd yn rhwystro pobl rhag cael cartrefi ansawdd da, addysg, cludiant a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.
""
Mae allgau cymdeithasol ac unigedd yn gysylltiedig â chyfraddau marwolaeth gynnar uwch a siawns waelach o oroesi ar ôl trawiad ar y galon. Gall hefyd arwain at fwy o berygl ysgaru a gwahanu a chamddefnyddio sylweddau - ac mae pob un o'r rhain yn effeithio iechyd a lles
""
Mae cysylltiad clir rhwng cartrefi ansawdd gwael a salwch cysylltiedig â straen, gyda phobl ar incwm isel yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gwael
""
Mae tai ansawdd isel wedi eu cysylltu â lefelau uwch salwch cyfyngol hirdymor, afiechydon anadlu a heintus, anafiadau, iechyd cyffredinol gwael a hyd yn oed lefelau marwoldeb uwch

 

"" Beth rydym wedi ei wneud hyd yma?

Y canlynol:

""
Wedi datblygu 134 uned tai fforddiadwy i'w rhentu ac ar werth, mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
""
Wedi canolbwyntio ynni ar rwystro digartrefedd, gan arwain at 113 unigolyn, cwpl a theulu yn osgoi mynd i lety dros dro ar gyfer pobl ddigartref yn 2006/07
""

Mae Gwasanaeth Hawliau Lles Sir Ddinbych wedi helpu miloedd o bobl leol gael      cyfanswm o £7.4 miliwn mewn budd-daliadau nawdd cymdeithasol a chredyd trethi (2006-2007), a £58.5 miliwn mewn budd-daliadau nawdd cymdeithasol a chredyd

Trethi dros yr 11 mlynedd diwethaf

""
Wedi agor dwy Ganolfan Integredig Plant - 1 yn y Rhyl ac 1 yn Ninbych
""
Wedi sicrhau cyllid project Anghydraddoldeb Iechyd  i leihau anghyfartaledd i'r mwyaf difreintiedig. Mae 4 cymuned yn y Rhyl yn chwarae rhan yng Nghynllun Tocynnau Hamdden y Rhyl
""
Wedi sicrhau Grant Amcan Un Ewrop o £200,000 gyda'r Fforwm Anabledd, Canolfan Gwaith a Mwy a'r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol i gefnogi pobl sy'n cael anfantais mewn hyfforddiant a chyflogaeth. Dros gyfnod tair blynedd, mae'r grant wedi helpu pobl gyda namau corfforol a synhwyrol a phobl ifanc sy'n gadael gofal
""
Wedi ail-gyflwyno cyfrifiad blynyddol pobl sy'n cysgu ar y stryd
""
Wedi penodi Pencampwr Digartrefedd y Cyngor Sir
""
Wedi creu panel aml-asiantaeth i ddatblygu llwybrau tai i bobl iau, gan gynnwys rhai sy'n gadael gofal
""
Mae Strategaeth Pobl Hŷn Sir Ddinbych wedi cefnogi ac ariannu Project GOFAL sy'n rhoi cefnogaeth a chyngor i bobl hŷn sydd mewn perygl, sy'n hawdd eu niweidio a/neu sy'n unig
""
Wedi sefydlu cysylltiadau gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru gyda golwg ar wella darpariaeth gwasanaeth i ddinasyddion Du a Lleiafrifoedd Ethnig

 

"" Beth rydym yn mynd i'w wneud yn y tair blynedd nesaf?
""
Gweithio tuag at leihau  cyfraddau iechyd gwael o ganlyniad i dlodi
""
Cynyddu ymwybyddiaeth o dlodi, gwella mapio lleol ac arolygu cynnydd ar leihau tlodi gan gynnwys tlodi tanwydd ac ariannol
""
Cynyddu ymwybyddiaeth o effaith sgiliau gwael ar iechyd
""
Dod â 50% o blant allan o dlodi erbyn 2010
""
Lleihau nifer tai gwael, gwella nifer tai fforddiadwy a monitro digartrefedd
""
Gwella mynediad i hyfforddiant a chyflogaeth i grwpiau difreintiedig
""
Cefnogi gwaith Cymunedau’n Gyntaf
""
Annog holl ddarparwyr gwasanaeth i feddwl am sut mae camau mewn adroddiadau a chynlluniau yn helpu lleihau tlodi
""
Hybu cydraddoldeb mynediad gwasanaethau i bawb

 

"" Sut all hyn eich effeithio chi?
""

Bydd Gwasanaethau Cyngor Hawliau Lles yn helpu pobl i sicrhau £7 miliwn ychwanegol mewn budd-daliadau nawdd cymdeithasol a chredyd trethi 'mewn gwaith' bob blwyddyn

""

60 aelod staff a gwirfoddolwyr wedi eu hyfforddi mewn amrywiol gyrff i helpu pobl a effeithir gan dlodi tanwydd

""

Trwy gyfrwng Strategaeth Dinasoedd y Rhyl, byddwn yn helpu 800 o bobl ychwanegol i gael swyddi cynaliadwy erbyn 2010

""

Bydd 60 o bobl gyda namau corfforol a 25 sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi i fynd i hyfforddiant, i wirfoddoli a chael cyfleoedd gwaith

""

Canfyddir 25 lleoliad gwaith ychwanegol trwy'r Gwasanaeth Canfod Swyddi ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu

 

"" Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri?

 

"" Cysylltiadau Defnyddiol
"" Tîm Tai Fforddiadwy
  Cysylltu i fynd ar restr Perchnogaeth Tai Rhad neu i ffeindio sut i fynd ar yr ysgol dai
  Ffôn: 0845 2303140
  E-bost: affordablehomes@taiclwyd.com
  Gwefan: http://www.taiclwyd.com
"" Siop Cyngor Budd-daliadau
  Rhoi cyngor yn syth ar faterion Budd-daliadau Lles I’r rhai sy’n analluog i fynd i’r swyddfa am gymorth
  Ffôn: 0800 0740333
  E-bost: info@bashop.tv
  Gwefan: http://www.bashop.tv
"" Canolfan Gynghori
  Darparu gwybodaeth a chyngor am ddim i ddatrys problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill
  Gwefan: http://www.citizensadvice.org.uk
  Y Rhyl: 01745 334568
  Dinbych: 01745 814336
  Rhuthun: 01824 703483
  Llangollen: 01978 860983
"" Cymdeithas Tai Clwyd Alyn
  Darparwr tai a gwasanaethau cysylltiedig
  Ffôn: 0800 052 2526
  E-bost: info@clwydalyn.co.uk
  Gwefan: http://www.clwydalyn.co.uk
"" Cymunedau’n Gyntaf/Cymunedau Nesaf
  Darparu pobl leol a chyfleoedd i chwarae rhan weithredol yn siapio dyfodol eu cymuned
  De Orllewin Y Rhyl
  Ffôn: 01745 332528
  E-bost: maria.mielczarski@co-op.co.uk
  Gwefan: http://www.swrcf.org.uk
   
     
     
     
"" Cymdeithas Tai Clwyd, Dinbych
  Cymdeithas tai elusennol sy’n darparu tai i’w rhentu - yn enwedig ar gyfer teuluoedd ifanc a’r oedrannus
  Ffôn: 0800 052 2526
  Gwefan: http://www.taiclwyd.com
"" Fforwm Anabledd Sir Ddinbych
  Darparu grwp ambarél ar gyfer pobl anabl a grwpiau anabledd-gyfeiriedig ledled Sir Ddinbych
  Ffôn: 01745 336301
  E-bost: dendisforum@hotmail.co.uk
  Gwefan: http://www.denbighshiredisabilityforum.co.uk
"" Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
  Hyrwyddo gweithrediad gwirfoddol drwy helpu gyda darpariaeth hyfforddiant, recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
  Ffôn: 01824 702441
  E-bost: office@dvsc.co.uk
  Gwefan: http://www.dvsc.co.uk
"" Canolfan Gynghori Gogledd Cymru ar Effeithlonrwydd Ynni
  Elusen gofrestredig annibynnol i helpu i wneud defnydd mwy effeithlon o ynni mewn cartrefi
  Ffôn: 0800 954 0658
  E-bost: advice@nweeac.org.uk
  Gwefan: http://www.nweeac.org.uk
"" Budd-daliadau Tai
  Gallwch ddefnyddio symiau’r Lwfans Tai Lleol I weld uchafswm y rhent sy’n daladwy ar gyfer eich sefyllfa chi.
  Ffôn: 01824 712800 (Gogledd Sir Ddinbych)
    01824 706079 (Canol/De Sir Ddinbych)
"" Canolfan Blant Integredig
  Integreiddio addysg, gofal, cefnogaeth teulu a gwasanaethau iechyd i blant a’u rhieni
  Canolfan Blant Integredig Derwen, Fforddlas, Y Rhyl
  Ffôn: 01745 360129
  E-bost: tina.law@denbighshire.gov.uk
  Margaret Morris ICC, Ffordd Gwaenynog, Dinbych Uchaf
  Ffôn: 01745 815891
  E-bost: yvonne.poole@denbighshire.gov.uk
"" Canolfan Byd Gwaith
  Darparu help a chyngor ar chwilio am waith, cefnogaeth ychwanegol a chyngor ar wneud cais am fudd-dal
  Ffôn: 0845 6060 234
  Gwefan: http://www.jobcentreplus.gov.uk
"" Canolfannau Hamdden
  Yn cynnig ystod eang o weithgareddau
  Corwen: 01490 412600
  Dinbych: 01745 816311
  Llangollen: 01978 861830
  Prestatyn: 01745 855632
  Y Rhyl: 01745 352900
  Rhuthun: 01824 703880
  Llanelwy: 01745 583368
"" Cynllun Tocynnau Hamdden
  I annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden fel nofio
  Ffôn: 01824 712700
  E-bost: dcc_leisure@denbighshire.gov.uk
  Gwefan: http://www.sportdenbighshire.co.uk
"" Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru
  Yn ceisio gwella darpariaeth gwasanaeth i ddinasyddion Duon a Lleiafrifoedd Ethnig
  Ffôn: 01492 622233
  E-bost: info@nwren.org
"" Pensiynau Uniongyrchol
  Gwybodaeth am bensiynau a delir drwy Ddebyd Uniongyrchol I gyfrif
  Ffôn: 0845 301 3011
  Gwefan: http://www.thepensionservice.gov.uk
"" Gwasanaeth Pensiwn
  Gwybodaeth am bensiynau a budd-daliadau i bensiynwyr
  Ffôn: 0845 60 60 265
  Gwefan: http://www.thepensionservice.gov.uk
"" Sefydliad Rowan
  Sefydliad cefnogi taliad uniongyrchol i alluogi pobl anabl a phobl hyn i aros yn annibynnol
  Ffôn: 02476 322 840
  E-bost: karen.smith@therowan.org
  Gwefan: http://www.therowan.org
"" Achub y Plant
  Ffocws ar bedwar hawl sylfaenol i blant: iechyd, rhyddid rhag newyn, addysg a diogelwch
  Ffôn: 020 7012 6400
  E-bost: supporter.care@savethechildren.org.uk
  Gwefan: http://www.savethechildren.org.uk
"" Shelter
  Yn helpu dros 170,000 o bobl y flwyddyn i ymladd am eu hawliau, i sefyll ar eu traed eu hunain, i ddod o hyd i gartref a’i gynnal
  Ffôn: 0808 800 4444
  Gwefan: http://www.sheltercymru.org.uk
"" Viva
  Cyfleoedd addysg anffurfiol, annog cydraddoldeb i bobl ifanc lesbiaid, hoyw a deurywiol rhwng 14 - 25 oed
  Ffôn: 01745 357941
  E-bost: vivalgb@hotmail.co.uk
  Gwefan: http://www.rhylyouth.co.uk
"" Yn Awyddus i Weithio
  Prosiect menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chanolfan Byd Gwaith i helpu’r rheiny sydd ymhell o’r farchnad lafur
  Ffôn: 01492 614100
"" Wales and West Housing Association (WWHA)
  Y gymdeithas dai fwyaf yng Nghymru, yn darparu cartrefi a gwasanaethau i dros 25,000 o bobl
  Ffôn: 0800 052 2526
  Gwefan: http://www.wwha.net
"" Llinell Gymorth Hawliau Lles
  Galwadau am ddim am wybodaeth am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, pensiynau a chredydau treth, hawliau tai a chyflogaeth, dyled bersonol, arbed ynni, a chysylltu â gwasanaethau cymunedol perthnasol fel gofal cartref
  Ffôn: 0800 169 6625
  E-bost: welfare.rights@denbighshire.gov.uk

 

 

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales