
 |
Beth mae hyn yn ei olygu? |
Gan amgylchedd, rydym yn golygu ein hamgylchfyd naturiol a ffisegol: cyfuniad y môr a'r mynyddoedd, y pridd, dŵr ac aer, ynghyd â'n tirwedd adeiledig sy'n cynnwys ein tai, mannau gwaith, ysgolion a cholegau, datblygiadau adwerthu a masnachol, addoldai, llyfrgelloedd, ynghyd â'n ffyrdd a'n systemau cludiant. Mae hefyd yn golygu ein hamgylchfyd diwylliannol gan gefnogi'r iaith Gymraeg ac amddiffyn a gwella ein tirwedd a'n treftadaeth. At hyn, mae'n golygu bod eisiau teimlo’n ddiogel yn ein hamgylchfyd, a pheidio ag ofni trosedd. Mae ein hamgylchfyd - mannau trefol, diwylliannol a gwledig - yn bwysig oherwydd medrent oll gael effaith fawr ar ein hiechyd a'n lles.
 |
Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod? |
|
Mae problemau byd-eang yn golygu goblygiadau lleol. Gan fod ein gweithgareddau yn medru niweidio ein hamgylchedd, mae angen i ni gymryd camau i amddiffyn ein hunain a chenedlaethau'r dyfodol trwy fyw a gweithio'n gynaliadwy |
|
Cydnabyddir bod niwed amgylcheddol gan lygredd aer, dŵr a phridd yn cynrychioli problemau i iechyd pobl |
|
Mae oerni a gwres eithafol yn medru niweidio'n iechyd yn ddifrifol. Mae ymbelydriad solar yn brif achos canser y croen ac yn ystod misoedd y gaeaf, mae pobl hawdd eu niweidio mewn mwy o berygl o gael hypothermia, ffliw, neu faglu a chwympo |
|
Mae gwastraff tŷ, masnachol, adloniant a diwydiannol yn ffynonellau cyffredinol o wastraff cymunedol. Mae'r dasg o waredu gwastraff yn bwysig a chostus, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llawer o weithgareddau twristiaid ac atyniadau naturiol. Mae gwastraff amhriodol yn difetha Sir Ddinbych |
|
Mae llawer o bobl hŷn yn berchenogion-ddeiliaid sy'n byw mewn eiddo hŷn, sy'n debygol o fod angen eu hatgyweirio |
|
Mae tai gwael yn niweidio ein hiechyd. At hyn, mae straen byw mewn tŷ dros dro yn effeithio iechyd pobl, gyda chyfraddau uchel damweiniau i blant |
|
Mae effeithiau posibl niweidio iechyd a hyrwyddo iechyd yn niferus. Er enghraifft, gall lleoliad siopau sy'n gwerthu ffrwyth a llysiau fforddiadwy effeithio gallu pobl i fwyta diet iach |
|
Mae anawsterau cludiant yn rhwystr mawr i ystod o wasanaethau gofal a gwasanaethau cyhoeddus eraill, cyflogaeth a diet iach. Fodd bynnag, mae cerbydau'n achosi llygredd sŵn ac aer, damweiniau ffordd a gall rwystro pobl rhag beicio a cherdded |
 |
Beth rydym wedi ei wneud hyd yma? |
| Y canlynol: |
|
Wedi cefnogi buddsoddiad gan y sector preifat yn Fferm Wynt Alltraeth North Hoyle sy'n creu digon o ynni adnewyddadwy i gyflenwi rhyw 40,000 o dai gyda thrydan |
|
Wedi gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, gan gychwyn paratoi Cynllun Datblygu Lleol a mabwysiadu fframwaith rhagofalol i dywys penderfyniadau cynllunio i ffwrdd o ardaloedd y tybir iddynt fod mewn perygl o lifogydd afon, llanw a draeniau dŵr arwyneb |
|
Wedi sicrhau cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri fel rhan o Gynllun Partneriaeth Tirwedd Grug a Bryngaerau i wella asedion amgylcheddol pwysig |
|
Wedi derbyn gwobr ar gyfer fflyd gerbydau werdd y Cyngor Sir sy'n defnyddio tanwydd wedi ei wneud o olew llysiau wedi ei ailgylchu o fwytai, ysgolion a gwestai |
|
Wedi datblygu cynllun peilot Bws Nos, sydd wedi derbyn gwobr, sy'n darparu gwasanaeth cludiant dibynadwy, rhad gyda'r nos i bobl hŷn, a redir gan wirfoddolwyr |
|
Wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynllun peilot cludiant sy'n cynnig teithio am hanner pris i bobl ifanc 16-18 oed |
|
Mae cyfraddau ailgylchu Sir Ddinbych wedi dyblu dros y 3 blynedd diwethaf o 13% i 26% |
|
Wedi cynorthwyo 125 o ymgeiswyr Sir Ddinbych i ymgymryd â gwelliannau i'w tai trwy'r Cynllun Houseproud sy'n cynnig benthyciadau a chymorth wrth drefnu atgyweiriadau ar gyfer perchnogion tai 60+ a phobl anabl |
|
Wedi hybu strategaeth cynhesrwydd cynaliadwy ar gyfer Sir Ddinbych sy'n adnabod ac yn gwella cartrefi 'tlodi tanwydd' |
|
Wedi ymgymryd â phrofion a dadansoddi cyflenwadau dŵr preifat a chyhoeddus i sicrhau bod digon ohono a'i fod yn iach |
|
Wedi helpu hwyluso gostyngiad 11% mewn allyriant CO2 yn y sector tai preifat |
|
Wedi gwella ffabrig allanol mwy na 120 o dai yn y ddwy Ardal Adnewyddu yn Ne-orllewin/Dwyrain y Rhyl ac yn Ninbych |
 |
Sut all hyn eich effeithio chi? |
|
Datblygu Panel Tai Pobl Ifanc i ystyried anghenion llety ac anghenion ehangach y rhai sy'n gadael gofal |
|
Lleihad mewn pobl yn galw o ddrws i ddrws yn gwerthu cynnyrch i bobl hawdd eu niweidio |
|
Datblygu Tai Cefnogaeth Gofal Ychwanegol - 59 uned yn y Rhyl, 61 uned ym Mhrestatyn, 24 uned yn Rhuthun |
|
Cyflogi Warden Amgylcheddol i ymateb yn gyflym i achosion o niwed troseddol a darparu 200 o ddigwyddiadau glanhau cymunedol bob blwyddyn |
|
Sicrhau bod holl ffenestri, drysau, systemau gwresogi a stafelloedd ymolchi yn eiddo'r Cyngor yn cyrraedd y safonau angenrheidiol |
|
Mynediad haws i gefn gwlad yn arbennig ar gyfer pobl anabl neu rai gydag anawsterau symudedd |
 |
Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri? |
 |
Cysylltiadau Defnyddiol |
 |
Cynlluniau Ceir Cymunedol |
| |
I bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig sydd heb lawer o gludiant cyhoeddus neu sy’n ei chael yn anodd ei defnyddio |
| |
Ffôn: |
01824 706858 |
 |
Cynllun Bws Lleol am Ddim Cyngor Sir Ddinbych |
| |
Trwyddedau bws am ddim i bobl hyn a phobl ag anableddau sy’n breswylwyr parhaol yn Sir Ddinbych |
| |
Ffôn: |
01824 716886 |
 |
Cynllun Bws Nos Sir Ddinbych |
| |
Yn darparu pobl hyn gyda chludiant gyda’r nos sy’n ddibynadwy, yn rhad ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr |
| |
Ffôn: |
0845 603 6030 |
 |
Deialu Reid |
| |
I bobl sy’n ei chael yn anodd oherwydd anabledd i ddefnyddio’r gwasanaeth bws |
| |
Ffôn: |
01745 344222 |
 |
Canolfan Gynghori Gogledd Cymru ar Effeithlonrwydd Ynni |
| |
Elusen gofrestredig annibynnol i helpu i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon yn ein cartrefi |
| |
Ffôn: |
0800 954 0658 |
| |
E-bost: |
advice@nweeac.org.uk |
| |
Gwefan: |
http://www.nweeac.org.uk |
 |
Cynllun Houseproud |
| |
Yn cynnig benthyciadau a chymorth i ymgeiswyr 60+ oed ac anabl i wneud gwelliannau i’w tai |
| |
Ffôn: |
0800 783 7569 |
|