Mae rhwystro ac ymyrraeth gynnar yn allweddol i wella a chynnal iechyd a lles meddyliol a chorfforol. Mae gwasanaethau rhwystrol sy'n lleihau perygl dibyniaeth a hybu annibyniaeth yn bwysig. Fel safle gweithredu cynnar, bydd Cymuned Iechyd a Gofal Cymdeithasol Conwy a Sir Ddinbych yn arwain y ffordd wrth ddatblygu a gweithredu Strategaeth Cyflwyno Gofal Argyfwng (DECS) gyda'r amcan o wella llwybrau cleifion a phrofiad o ofal argyfwng a gofal heb ei drefnu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
 |
Beth rydym wedi ei wneud hyd yma? |
| Y canlynol: |
|
Wedi penodi Swyddog Comisiynu Gofalwyr |
|
Datblygu ystod o wasanaethau ymyrryd i leihau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol e.e. trwy ymgymryd â phrofion prynu alcohol a thybaco dan oed |
|
Datblygu opsiynau tai ac agwedd rhwystro digartrefedd tuag at bobl sydd wedi eu bygwth â cholli eu cartref |
|
Os yw digartrefedd yn rhywbeth na ellir ei osgoi, darparu gwasanaeth cymorth i bobl mewn llety dros dro. Nid ydym bellach yn lleoli teuluoedd digartref mewn llety gwely a brecwast |
|
Dosbarthu taflenni ymwybyddiaeth alcohol i bobl hŷn trwy gyfrwng y Strategaeth Pobl Hŷn |
|
Penodi Rheolwr Gofal Canolraddol |
|
Cytuno cyllideb ar gyfer cyfnod cyntaf y Cynllun Datblygu Gofal Canolraddol sy'n cynnwys datblygu gwasanaeth Ymateb mewn Argyfwng |
|
Darparu 2275 eitem o offer a chymhorthion i alluogi i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain. Ar gyfartaledd, cymerodd chwe diwrnod gwaith o gwblhau cynllun gofal i gyflwyno a gosod offer a chymhorthion |
|
Comisiynu Gwasanaeth Datrys Argyfwng -Triniaeth yn y Cartref ar y cyd, i gyflwyno gwasanaethau i oedolion gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol yn ardaloedd arfordirol a gwledig Sir Ddinbych i leihau'r angen am dderbyn i ysbytai |
 |
Sut all hyn eich effeithio chi? |
|
Mwy o ddewis ac argaeledd egwyliau byrion i blant anabl |
|
Goddefiad sero cam-drin ac amharchu pobl hŷn mewn unrhyw leoliad gofal |
|
Gwell cefnogaeth i Ofalwyr mewn perthynas ag ymyrraeth gynnar ac mewn argyfwng |
|
Cleifion allanol i aros dim mwy na 10 wythnos a chlaf mewnol neu achos dydd i aros dim mwy na 14 wythnos (erbyn Mawrth 09) |
|
Darparu mwy o ofal i chi yn eich cartref a'ch cymuned chi i osgoi derbyn yn ddiangen i ysbyty neu gartref gofal |
 |
Gwasanaeth Adfer Datrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref ar gael yn Sir Ddinbych wledig a helpu cefnogi pobl gydag anghenion iechyd meddwl difrifol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain |