
 |
Beth mae hyn yn ei olygu? |
Gan Anghenion Newidiol - Gwasanaethau Ymatebol rydym yn cydnabod bod digonedd o bosibiliadau a dewisiadau bywyd i bob un ohonom a bod newid yn rhan o fywyd. Amserau trosiannol pwysig yw plentyndod cynnar; symud o addysg gynradd i uwchradd; symud o Wasanaethau Plant i Wasanaethau Oedolion; dechrau gweithio; gadael cartref; cychwyn teulu; newid swyddi neu wynebu colli swydd ac ymddeoliad.
Mae'n bwysig ein bod yn Sir Ddinbych yn ceisio adeiladu ar adnoddau pobl ac ategu eu systemau cefnogi hwy wrth iddynt geisio rheoli newidiadau anodd trwy ddarparu gwasanaethau ymatebol. Cynnig cymorth arbenigol wrth ddelio gyda'u problemau; ceisio lliniaru amgylchiadau niweidiol; cynorthwyo pobl i addasu a gwneud synnwyr o'u hamgylchiadau newydd a cheisio hybu canlyniad positif. Gall ymyrraeth o'r fath ganolbwyntio ar unigolion, cyplau, teuluoedd, grwpiau a chymunedau.
 |
Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod? |
|
Mae rhai digwyddiadau yn cynnwys newidiadau sy'n syndod ac yn rhai i'w croesawu, ynghyd â newidiadau annisgwyl a heriol megis diagnosis afiechyd, colli swydd neu ddioddef trais. Mae pob digwyddiad o'r fath yn tueddu i achosi cymryd cam yn ôl, cymryd penderfyniad a newid |
|
Rydym yn wahanol yn ein dulliau o ddelio â digwyddiadau heriol, gan ddibynnu ar natur y newid a faint mae'n debygol o bara, ein profiad o ddelio â newidiadau o'r fath, oes yna straen arall yn ein bywydau, pa mor gryf ydym ni, ein rhwydweithiau a'n hadnoddau materol |
|
Gall prosesau trosiannol achosi problemau ac weithiau mae angen datblygiad pellach i sicrhau nad yw pobl hawdd eu niweidio yn dioddef anfantais wrth symud o un gwasanaeth i un arall |
 |
Beth rydym wedi ei wneud hyd yma? |
| Y canlynol: |
|
Penodi Gweithiwr Project Anableddau a ariennir trwy'r grant Cydweithio sy'n gweithio ar draws Gwasanaethau Plant ac Oedolion, gan ganolbwyntio ar gymhwyster, cyfnodau trosiannol, cyd-gynllunio, hyfforddi a chomisiynu |
|
Datblygu cynllun gofal canolraddol i gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag aros mewn ysbytai am gyfnodau maith. Mae'r cynllun yn rhagweld creu gwasanaethau newydd ac ail-ddylunio gwasanaethau presennol er mwyn iddynt ddarparu gofal canolraddol effeithiol |
|
Tîm amlasiantaeth newydd, gyda lleoliad gwaith a rennir, gyda'r rôl o sicrhau cydweithio llawer agosach gyda chydweithwyr yn y maes tai |
|
Cyfrannu at astudiaeth ranbarthol o dechnoleg gyda golwg ar wella'r gofal y mae pobl yn cael ei gynnig yn eu cartrefi eu hunain |
|
Sicrhau £344,000 mewn cyllid Grant Cyfalaf a £40,000 mewn cyllid Grant Refeniw ar gyfer datblygiadau Teleofal a Theleiechyd lleol sy'n targedu: gofalwyr pobl hŷn gyda phroblemau iechyd meddwl; pobl gyda phroblemau iechyd meddwl; pobl gydag anabledd dysgu, ac, yn ehangach, diogelwch yn y cartref. Mae hyn yn ychwanegol at y 2,300 o bobl yn Sir Ddinbych sydd eisoes â sicrwydd larwm cymunedol. |
 |
Sut all hyn eich effeithio chi? |
|
Gwell cyfnod trosiannol i oedolion ifanc gydag anabledd dysgu o ganlyniad i gyd-brosesau gweithio o fewn Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Conwy a Sir Ddinbych |
|
Datblygu storfa well offer cymunedol a gomisiynwyd ar y cyd yn y Rhyl a Rhuthun (2008-09) |
|
Bydd 200 o bobl hawdd eu niweidio yn cael eu cefnogi trwy gyfrwng Teleofal yn 2008-09 |
|
Cynllun peilot tai â chefnogaeth i adnabod anghenion grwpiau lleiafrifol nas diwallwyd wrth gyrchu gwasanaethau camdriniaeth ddomestig |
 |
Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri? |
 |
Cysylltiadau Defnyddiol |
|