
 |
Beth mae hyn yn ei olygu? |
Gan Anghenion Mwy Hirdymor rydym yn cyfeirio at ofynion newidiol am gymorth trwy gydol oes. Mae'n cynnwys plant ac oedolion gyda salwch cronig (e.e. babanod sydd wedi goroesi oherwydd datblygiadau mewn technoleg feddygol ynghyd â phobl gyda chrydcymalau gwynegol, clefyd siwgr neu HIV), pobl gydag anabledd dysgu, pobl gyda nam corfforol, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl (gan gynnwys rhai sy'n dioddef episodau ailadroddus), pobl sydd â phrofiad o drais yn eu cartrefi, pobl sy'n camddefnyddio sylweddau, gofalwyr a phobl hŷn. Wrth i ni weld cynnydd o ran gwella'r gymysgedd o wasanaethau clinigol, adsefydliadol a chefnogol sydd ar gael yn Sir Ddinbych, rydym yn dangos bod anghenion mwy hirdymor ein dinasyddion yn bwysig.
 |
Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod? |
|
Mae proffil demograffig newidiol Sir Ddinbych yn dangos, ynghyd â chyfradd enedigaethau sy'n raddol ostwng, bod pobl yn byw yn hirach a bod nifer cynyddol o bobl hŷn, gan gynnwys cynnydd yn y nifer o bobl hŷn bregus |
|
Yn Sir Ddinbych mae cyfran uwch o fabanod gyda phwysau isel adeg eu geni nag ar draws Cymru gyfan. Mae'r babanod hyn yn wynebu mwy o risg o ddatblygu problemau yn ystod ac ar ôl eu geni, ynghyd â bod â mwy o risg o ddioddef afiechydon cronig wrth iddynt ddod yn oedolion |
|
Bydd cynnydd yn y gyfran o bobl hŷn yn cael effaith arwyddocaol ar iechyd ein poblogaeth gyda lefelau cynyddol o salwch hirdymor a chronig. Mae dros hanner y bobl 60 oed a throsodd yn adrodd bod ganddynt salwch hirdymor cyfyngol, o gymharu â llai nag 20% ym mhob categori oedran arall |
|
Bydd cynnydd yn y boblogaeth Gofalwyr wrth i nifer cynyddol o bobl fabwysiadu rôl ofalu |
|
Mae pobl gyda chyflwr tebyg (megis pobl gydag afiechyd y galon) a phobl sy'n wynebu amgylchiadau tebyg (megis rhai sy'n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig) angen atebion unigol |
|
Mae nifer o gyflyrau sy'n cael eu cuddio gan label sengl e.e. efallai bod gan rywun gyda phroblem iechyd meddwl broblemau camddefnyddio alcohol a sylweddau hefyd |
|
Mae nifer cynyddol o ofalwyr sy'n heneiddio, yn gofalu am oedolion gydag anabledd dysgu |
 |
Beth rydym wedi ei wneud hyd yma? |
| Y canlynol: |
|
Galluogi gwell mynediad i therapi iaith a lleferydd i blant ysgol - ariennir i ddechrau gan y Grant Cydweithio |
|
Hybu cynllun hunangyfeirio ar-lein i oedolion a gofalwyr sydd angen cymorth, sy'n cael ei oruchwylio gan y Tîm Cyswllt Cyntaf |
|
Penodi Cyd-reolwr Comisiynu ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Meddwl |
|
Hwyluso astudiaeth ymchwil ar anghenion iechyd a gofal cymdeithasol trigolion Cartrefi Gofal yn Sir Ddinbych |
|
Darparu Taliadau Uniongyrchol i 32 o bobl |
|
Darparu cyllid o £700,000 i 33 o fudiadau sector gwirfoddol trwy gyfrwng Cynllun Grantiau Sector Gwirfoddol Gwasanaethau Cymdeithasol |
|
Creu projectau peilot Teleofal/Teleiechyd , gan gynnwys un sy'n targedu cartrefi yn cynnig gofal 24 awr i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl a Thŷ Camu i Lawr gyda thechnoleg gynorthwyol a fydd yn cynorthwyo pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain |
|
Datblygu ymhellach y project Dolen Allwedd sy'n cynnig cefnogaeth lefel isel ond hirdymor i oedolion hawdd eu niweidio |
|
Sicrhau cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru o £250,000 ar gyfer y Project Doorstop sy'n ceisio rhoi cychwyn newydd mewn bywyd i bobl sydd â phroblemau yn deillio o gamddefnyddio sylweddau |
|
Sicrhau cyllid Grant Tai Cymdeithasol o £4 miliwn ar gyfer Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn y Rhyl (30 uned dwy lofft a 29 uned 1 llofft), i'w gwblhau erbyn Medi 2008. At hyn rydym wedi sicrhau Cyllid Gofal Ychwanegol i ddatblygu cynlluniau yn Rhuthun a Phrestatyn |
|
Ers Ebrill 2005 mae'r Cyngor wedi cwblhau mwy na 700 o Grantiau Gwella ar dai sector preifat: roedd 320 o'r rhain yn addasu cartrefi pobl anabl trwy gyfrwng grantiau cyfleusterau i bobl anabl am gost o fwy na £5.2 miliwn |
 |
Sut all hyn eich effeithio chi? |
|
Cynnydd yn y nifer o oedolion hawdd eu niweidio a phobl hŷn sy'n cael eu cefnogi i fod mor annibynnol ag y bo modd yn eu cartrefi eu hunain |
|
Sefydlu project arall Dolen Allwedd i oedolion hawdd eu niweidio ym Mhrestatyn a phroject mwy yn Ninbych i gynnwys pobl gydag anabledd dysgu ag anghenion mwy cymhleth |
|
Mwy o bobl hŷn gyda nam ar eu clyw yn cael eu cynorthwyo i ddysgu darllen gwefusau a sgiliau cyfathrebu eraill |
|
Cynnydd yn y nifer o Ofalwyr a adnabuwyd, ac sy'n derbyn gwybodaeth a chefnogaeth gan staff iechyd proffesiynol |
|
Y Cynllun Tasgmon ar gael i fwy o bobl hŷn |
 |
Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri? |
 |
Cysylltiadau Defnyddiol |
 |
Tîm Iechyd Meddwl yr Oedrannus |
| |
Yn darparu ystod o wasanaethau i oedolion 65+ sy’n dioddef salwch neu anhwylder iechyd meddwl difrifol |
| |
Ffôn: |
01745 443194 (North) |
| |
|
01824 712400 (South) |
| |
Gwefan: |
http://www.wales.nhs.uk |
|