Sir Ddinbych Iach
"" English
 
CartrefStrategaeth 2008-2011
""

Amddiffyn a Diogelu

Beth mae hyn yn ei olygu?

Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod?

Beth rydym wedi ei wneud hyd yma?
Beth rydym yn mynd i'w wneud yn y tair blynedd nesaf?

Sut all hyn eich effeithio chi

Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri?
Cysylltiadau Defnyddiol
"" Beth mae hyn yn ei olygu?

Gan Amddiffyn a Diogelu rydym yn golygu cael help perthnasau, cyfeillion, cymdogion, cymunedau a staff proffesiynol, gan gynnwys yr heddlu a'r gwasanaeth tân ac achub, i gadw llygaid allan am bobl hawdd eu niweidio trwy dynnu sylw eraill at dystiolaeth megis: anafiadau, esgeulustra, ataliaeth, lladrad, gwatwar, bwlio a bygwth cosbi, colli pwysau arwyddocaol neu roddi llawer o bwysau ymlaen, tan/tros-feddyginiaethu, treisio, aflonyddiad, gadael, dylanwad gormodol eraill yn eu cartrefi, a methu â thalu sylw yn gyffredinol i beryglon iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn golygu amddiffyn iechyd pobl trwy eu brechu, a'u helpu i osgoi peryglon eraill megis damweiniau ar y ffordd trwy wisgo gwregysau diogelwch, a gwenwyn bwyd trwy hybu glendid bwyd da. Mae'n bwysig ein bod yn helpu amddiffyn ein gilydd rhag niwed a pherygl a'n bod yn cymryd camau ystyrlon ac ymroddedig i warchod unigolion a chymunedau..

"" Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod?
""

Mae anafiadau a'u canlyniadau yn achosi pwysau trwm o ran marwolaeth, poen, anabledd, colled economaidd a chostau gofal iechyd

""

Nid yw pa mor ddiogel rydym yn teimlo yn ein cymdogaeth bob amser yn gysylltiedig â chyfraddau trosedd

""

Mae unigolion sydd wedi dioddef trais a mathau eraill o drosedd yn aml yn dioddef niwed i'w iechyd sy'n mynd ymhellach nag anafiadau. Mae ofni trosedd yn gysylltiedig â phryder cynyddol a phwysau gwaed uwch, ac mae'n cael ei gysylltu'n arwyddocaol gydag iechyd a ystyrir yn wael

""
Mae trais domestig yn cael effaith anferthol ar ddioddefwyr a'r rhai sy'n ei oroesi
""

Mae ymosodiadau yn y cartref yn cynnwys nodweddion defnyddio grym, mynediad heb ei herio at ddioddefwyr a theimlad mawr o frad

""

Mae'n erchyll cael eich cam-drin ac nid yw graddfa camdriniaeth yn hysbys

""

Mae canlyniadau camdriniaeth yn mynd y tu hwnt i ddioddefaint unigol ac yn dodi pwysau mawr ar y gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, yr heddlu a'r System Cyfiawnder Troseddol

 

"" Beth rydym wedi ei wneud hyd yma?
Y canlynol:
""
""

Holl achosion POVA yn cael eu rheoli gan y Cydlynydd POVA i sicrhau ymateb cyson    ac effeithiol i honiadau o gamdriniaeth ar draws grwpiau cleient

""

Sefydlu trefniadau cydweithio da gydag asiantaethau partner

""

Bu buddsoddiad pellach yn y swyddogaeth Dderbyniaeth, gan ganiatáu cydweithio da gyda'r Swyddog Derbyniaeth a POVA, gan sicrhau amddiffyniad ariannol i'r sawl sydd wedi eu cam-drin yn ariannol

""

Mae gwybodaeth ar Chwythu'r Chwiban a Chyllid Pobl Hawdd eu Niweidio wedi ei integreiddio yn yr A-Y a ddiweddarwyd ar gyfer Gweithwyr Gofal, sydd wedi ei ail-gyflwyno i holl staff darparu mewnol. Mae'r wybodaeth hon hefyd yn cael ei rhoi i holl staff newydd adeg eu penodi.

""

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithredu strategaeth hyfforddi gynhwysfawr ar Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio a'r Ddeddf Gallu Meddyliol, gyda chyfanswm o 400 o bobl yn derbyn hyfforddiant, gan gynnwys y sector annibynnol

""

Mae hyfforddiant POVA gydag Ymddiriedolaeth Conwy a Sir Ddinbych yn orfodol

""

Datblygwyd systemau cyfeirio Diogelwch Tân ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ac mae gweithgareddau gorfodi eraill yn amlycach e.e. gorfodi tai, trwyddedu, gwaith diogelwch cymunedol

""
Sefydlu Uned benodol ar gyfer Diogelu ac Adolygu
""

Rydym wedi sicrhau bod y Swyddog Tai yn gweithio gyda'r heddlu a phartneriaid eraill yn y sector cymdeithasol a gwirfoddol i ddatrys ymddygiad gwrthgymdeithasol lle bynnag y bo modd

""

Cyflwyno'r pecyn Diogelu Cymunedol i fudiadau gwirfoddol a grwpiau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych

""

Bu Tîm Amddiffyn Iechyd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn delio â nifer o faterion amddiffyn iechyd a effeithiodd Sir Ddinbych e.e. ffliw adar

 

"" Beth rydym yn mynd i'w wneud yn y tair blynedd nesaf?
""

Datblygu cyd-Fwrdd Diogelu Plant lleol gyda Chonwy

""

Gwella cefnogaeth i'r teulu, gwasanaethau rhwystro a chynhwysiant i blant sy'n  hawdd eu niweidio

""

Ymgymerir ag arolwg o'r gwasanaethau adfocatiaeth ar gyfer pobl hŷn a bydd hyn yn delio'n benodol ag anghenion pobl sydd fwyaf agored i niwed

""

Datblygu archwiliadau penodol POVA i sicrhau ansawdd y gwasanaeth

""

Cefnogid defnyddio'r Fframwaith Asesu Cyffredin i hwyluso cyfleoedd ymyrryd cynnar a lleihau gwaethygu sefyllfa nes bod angen cyfeiriad Gwasanaethau Cymdeithasol

""

Cyflwyno rhaglen gorfforaethol amddiffyn plant ac oedolion

""

Sicrhau bod trefniadau pandemig ffliw yn cael eu diweddaru, gan gynnwys cynlluniau dilyniant busnes

""

Gweithredu a monitro Menter Cartrefi Diogelach, a ddarperir i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig

""

Lleihau trosedd sy'n gysylltiedig ag alcohol, niwed troseddol ac ofn trosedd

""

Cefnogi gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol

""

Sicrhau bod cynlluniau'n bodoli i ymateb i argyfyngau a heintiau e.e. clwy'r traed a'r genau neu wenwyn bwyd

""

Cynnal a datblygu ymhellach systemau effeithiol ar gyfer cefnogi gwasanaethau ysbyty, cymuned a gofal sylfaenol o ran rhwystro a rheoli heintiau

""

Datblygu defnydd Eiriolwyr Gallu Meddyliol

""

Mabwysiadu canllawiau 'Mewn Dwylo Diogel' i amddiffyn pobl hawdd eu niweidio rhag camdriniaeth ariannol

""

Datblygu defnydd Eiriolwyr Iechyd Meddwl i i gefnogi pobl hawdd eu niweidio

 

"" Sut all hyn eich effeithio chi?
""

Bydd gwasanaeth eirioli llawn ar gael i bobl hŷn

""

Bydd llai o achosion troseddau cysylltiedig ag alcohol ar y strydoedd ac mewn eiddo trwyddedig

""

Bydd ymyrraeth gynnar trwy'r Fframwaith Asesu Cyffredin yn golygu y bydd plant a phobl ifanc yn cael cefnogaeth yn gynt

""

Bydd ein gwasanaethau integredig i amddiffyn oedolion hawdd eu niweidio yn medru ymateb yn brydlon ac yn effeithiol

""

Gwella glendid mewn ysbytai i fod yn y 25% uchaf yng Nghymru

 

"" Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri?

 

"" Cysylltiadau Defnyddiol
"" Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
  Asesu trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio’n andwyol ar yr amgylchedd
  Ffôn: 01824 706100
  E-bost: community.safety@denbighshire.gov.uk
  Gwefan: http://www.denbighshire.gov.uk
"" Gwasanaethau Brys yn Unig
  Am gymorth brys
  Ffôn: 999
"" Diogelwch Tân
  Swyddogion diogelwch tân yn darparu cyngor ac yn gweithio gyda chymunedau lleol i wella diogelwch tân
  Ffôn: 0800 169 1234
  E-bost: bethan.millington@nwales-fireservice.org.uk
  Gwefan: http://www.nwales-fireservice.org.uk
"" Tîm Cyswllt Cyntaf
  Yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i unrhyw un sydd angen cefnogaeth neu sydd ag ymholiad
  Ffôn: 01824 712900
  E-bost: firstcontactteam@denbighshire.gov.uk
  Gwefan: http://www.denbighshire.gov.uk
"" Hafal Sir Ddinbych
  Bydd Hafal Sir Ddinbych yn helpu pobl sydd â salwch meddwl difrifol a’u teuluoedd i weithio tuag at adferiad
  Ffôn: 01745 443050
  E-bost: denbighshire@hafal.org
  Gwefan: http://www.hafal.org
"" Tîm Diogelu Iechyd
  Yn delio â materion diogelu iechyd sy’n effeithio ar Sir Ddinbych
  Ffôn: 01352 803234
  E-bost: judy.heart@nphs.wales.nhs.uk
  Gwefan: http://www.wales.nhs.uk
"" Gwasanaeth Eiriolwr Annibynnol Galluedd Meddwl
  Yn darparu amddiffyniad annibynnol i gefnogi pobl nad ydynt â’r gallu i wneud penderfyniadau pwysig
  Ffôn: 0844 800 2776
  E-bost: IMCA@advocacyexperience.com
  Gwefan: http://www.advocacyexperience.com
"" Heddlu Gogledd Cymru
  Yn gweithio i leihau trosedd, anhrefn, ofn trosedd ac i wneud y ffyrdd yn ddiogelach
  Ffôn: 0845 607 1001 (Saesneg)
    0845 607 1002 (Cymraeg)
  Gwefan: http://www.north-wales.police.uk
"" Ymgyrch Cartrefi Diogelach
  Gwasanaeth i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig
  Ffôn: 01824 708008
  E-bost: community.safety@denbighshire.gov.uk
  Gwefan: http://www.denbighshire.gov.uk
"" S.T.A.R.S
  Cynllun warden diogelwch cymunedol sy’n cynnig arolwg diogelwch cartref am ddim a gwasanaeth gosod cloeon am ddim i bobl dros 50 oed
  Ffôn: 01745 360006
  Gwefan: http://www.starsnorthwales.org.uk
"" Safonau Masnach
  Darparu cyngor i sicrhau grym i ddefnyddwyr a bod masnachwyr yn gallu cystadlu mewn amgylchedd deg
  Ffôn: 0845 404 0506
  E-bost: tradingstandards@anglesey.gov.uk
  Gwefan: http://www.tradingstandardswales.org.uk
"" Cymorth i Ddioddefwyr
  Elusen annibynnol sy’n darparu cefnogaeth gyfrinachol am ddim i helpu pobl i ddygymod ag effeithiau trosedd
  Ffôn: 01745 582830
  E-bost: central@nwvictimsupport.org
  Gwefan: http://www.victimsupport.org.uk
"" Cymorth i Ferched
  Yn darparu cefnogaeth uniongyrchol sy’n canolbwyntio ar ferched i ferched a phlant sy’n dioddef neu wedi dioddef camdriniaeth ddomestig
  Ffôn: 01745 814494
  E-bost: glyndwrwomensaid@tiscali.co.uk
  Gwefan: http://www.welshwomensaid.org
"" Llinell Gymorth Camdriniaeth Ddomestig Genedlaethol 24 awr
  Yn darparu cyrchiad i lety lloches brys 24 awr, yn ogystal â gwasanaeth gwybodaeth
  Ffôn: 0808 2000 247
  E-bost: glyndwrwomensaid@tiscali.co.uk
  Gwefan: http://www.crimereduction.homeoffice.gov.uk

 

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales