Sir Ddinbych Iach
"" English
 
CartrefStrategaeth 2008-2011
""

Y Gwasanaethau Priodol yn y Lle Priodol

Beth mae hyn yn ei olygu?

Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod?

Beth rydym wedi ei wneud hyd yma?
Beth rydym yn mynd i'w wneud yn y tair blynedd nesaf?

Sut all hyn eich effeithio chi

Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri?
Cysylltiadau Defnyddiol
"" Beth mae hyn yn ei olygu?

Gan Wasanaethau Priodol yn y Lle Priodol rydym yn golygu darparu cyn agosed i'w cartrefi, y math o help y mae pobl ei angen i fod yn iach ac annibynnol. Rydym yn gweld ein hunain yn gwella galluoedd, cryfder a rheolaeth pobl dros eu bywydau eu hunain, ac ategu eu hadnoddau hwy gyda mynediad i wasanaethau. Mae'n bwysig ein bod, yn Sir Ddinbych, yn mabwysiadu agwedd sy'n adeiladu ar gryfder unigolion, teuluoedd, cymdogaethau a chymunedau trwy fod â gweithlu sy'n alluog, yn rhagweithiol ac yn defnyddio adnoddau yn y dull gorau.

"" Sut mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod?
""

Mae cynllunio gweithlu yn golygu gwneud synnwyr i nifer, sgiliau a galluoedd holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Hefyd, mae'n golygu adnabod y sgiliau a'r galluoedd y bydd Sir Ddinbych eu hangen yn y dyfodol, er mwyn i ni fedru cyflwyno gwasanaethau newydd a gwell. Trwy gymharu'r gweithlu nawr gyda'r gweithlu rydym ei eisiau, medrwn weld y prinder sgiliau, unrhyw warged a'r bylchau.

""

Trwy edrych yn ofalus ar ein gwasanaethau a gofyn am farn ar ein blaenoriaethau, medrwn gysylltu gwasanaethau a chynllunio ariannol. Hefyd medrwn gefnogi dysgu amlddisgyblaethol, datblygu a gweithio trwy gynnig hyfforddiant ar y cyd. Trwy ddefnyddio systemau rheoli gwybodaeth a rennir ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, medrwn gronni gwybodaeth ynglŷn â'r farchnad lafur yn Sir Ddinbych, archwilio dulliau o gadw gweithwyr a phenderfynu faint o weithwyr sydd eu hangen, ac a fydd eu hangen

""

Mae pwysigrwydd cadw a chefnogi gweithwyr yn y gwaith yn hanfodol i'r economi ac yn hollbwysig o ran sicrhau bod y staff priodol gennym yn y lle priodol - staff hapus ac iach!

 

"" Beth rydym wedi ei wneud hyd yma?
Y canlynol:
""

Cael Gwobr Safon Iechyd Gorfforaethol am hybu iechyd a lles staff

""

Sicrhau bod holl staff sy'n gweithio gyda phobl hŷn ac anabl wedi cael y Dyfarniad BTEC mewn darparu offer cymunedol

""

Llunio Partneriaeth Iechyd Meddwl gyda Chonwy i greu gwasanaeth integredig

""

Sicrhau estyniad Tîm Methiant y Galon gyda nyrs arbenigol ychwanegol, a ariannwyd gan Sefydliad y Galon Prydain

""

Galluogi cyflogi staff cefnogi generig sy'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Ymateb Critigol Gofal Canolraddol i gefnogi pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy ddefnyddio cyllid Grant Cydweithio

""

Darparu hyfforddiant rhyngasiantaeth mewn perthynas ag Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio, Amddiffyn Plant, Camdriniaeth Ddomestig, deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Symud a Thrin, Gofal Iechyd Parhaus ac Addysg a Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol

""

Cynnydd arwyddocaol wrth alluogi i staff 'oedran ymddeol' barhau i weithio yn llawn- neu’n rhan-amser

""

Ategu gallu'r gweithlu yn yr unedau Damweiniau ac Argyfwng a chanser trwy gefnogi recriwtio a chefnogi 115 o wirfoddolwyr. Enillodd y Robins Volunteers Wobr Buddsoddi mewn gwirfoddolwyr yn 2006 ac maent nawr yn gweithio ym mhob maes o'r Ymddiriedolaeth

""

Gwella gwasanaethau gwybodaeth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a staff sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

""

Creu ac ail-egnïo Partneriaeth Datblygu Gweithlu Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

""

Datblygu gwefan Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles i wella mynediad i wybodaeth

""

Sefydlu Gweithgor Asesu Anghenion sy'n gyfrifol am ddatblygu'r Asesiad Anghenion

""

Sefydlu projectau yn Y Rhyl, Corwen a Dinbych sy'n cynllunio cyd-gyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol

 

"" Beth rydym yn mynd i'w wneud yn y tair blynedd nesaf?
""

Cefnogi'r Fframwaith Gwasanaethau Cymunedol

""

Gwella ansawdd a dewis gwasanaethau i ddefnyddwyr a gofalwyr

""

Datblygu ymhellach rôl y Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol

""

Datblygu gwasanaethau trwy gyd-gomisiynu a/neu gomisiynu rhanbarthol

""

Gwella cydlyniad cyflwyniad gwasanaeth i blant a phobl ifanc a gweithredu Strategaeth Plant a Phobl Ifanc yn llawn

""

Buddsoddi mewn recriwtio a chadw a datblygu staff yn y gymuned iechyd, gofal cymdeithasol a thai ehangach

""

Sicrhau bod mynediad i wasanaethau mor agos ag y bo modd yn ymarferol i gymunedau yn amodol ar ystyriaethau diogelwch, ansawdd ac adnoddau

""

Cefnogi datblygiad sector annibynnol a gwirfoddol sy'n gryf ac effeithiol

""

Darparu gwasanaeth sy'n sicrhau bod cleifion - pryd bynnag y bônt yn cysylltu ag unrhyw rai o'r gwasanaethau gofal argyfwng - yn cael eu hasesu ac yna eu gweld gan y staff iechyd gofal iechyd proffesiynol mwyaf addas ar yr adeg fwyaf priodol.

""

Mwyhau iechyd a lles trwy annog ffordd o fyw iach i bobl hŷn a gwella rôl rwystrol/alluogi gwasanaethau awdurdod lleol, gofal iechyd, darpariaeth y sector annibynnol a gwirfoddol

""

Sicrhau bod gwasanaethau ac adeiladu yn addas, i gymryd i ystyriaeth ofynion y dyfodol a newidiadau yn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol

""

Comisiynu asesiadau anghenion priodol er mwyn medru datblygu gwasanaethau i'r dyfodol

 

"" Sut all hyn eich effeithio chi?
""

Staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd â chymwysterau gwell, gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer eu gwaith

""

Dod â meddygon teulu, gwasanaethau iechyd cymunedol a gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd ar safleoedd sengl ledled Sir Ddinbych

""

Datblygu timau arbenigol yn cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol

""

Anghenion iechyd a gofal cymdeithasol is yn cael eu diwallu gan un gweithiwr penodol wedi ei hyfforddi

""

Gweithlu hapusach, iachach!

 

"" Sut fyddai hyn o fantais i deulu Ceri?

 

"" Cysylltiadau Defnyddiol
"" Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
  Cynrychiolwyr sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc
  Ffôn: 01824 712900
  E-bost: firstcontactteam@denbighshire.gov.uk
"" Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
  Yn hyrwyddo gweithrediadau gwirfoddol drwy helpu gyda darpariaeth hyfforddiant, recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
  Ffôn: 01824 702441
  E-bost: office@dvsc.co.uk
  Gwefan: http://www.dvsc.co.uk
"" Tîm Cyswllt Cyntaf
  Yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i unrhyw unigolyn sydd angen cefnogaeth neu sydd ag ymholiad
  Ffôn: 01824 712900
  E-bost: firstcontactteam@denbighshire.gov.uk
  Gwefan: http://www.denbighshire.gov.uk
"" Gwirfoddolwyr ROBINS
  Gwirfoddolwyr mewn ysbytai sy’n cefnogi ac yn dod yn ffrindiau â chleifion a staff
  Ffôn: 01745 445471
  E-bost: joanna.tann@cd-tr.wales.nhs.uk
  Gwefan: http://www.wales.nhs.uk

 

 

 

"" Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales Welsh Assembly Government North Wales Fire and Rescue Service Denbighshire County Council Denbighshire Local Health Board Denbighshire Voluntary Services Council Conwy and Denbighshire NHS Trust Care Forum Wales Clwyd Community Health Council National Public Health Service for Wales Health Challenge Wales